Rygbi: Cystadleuaeth Ewropeaidd newydd?

  • Cyhoeddwyd
ToulonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Toulon yn dathlu ennill Cwpan Heineken yn 2013

Mae prif glybiau rygbi Lloegr a Ffrainc wedi dweud eu bod yn barod i sefydlu cystadleuaeth newydd i gymryd lle Cwpan Heineken o ddechrau'r tymor nesaf.

Dywedodd y clybiau y llynedd am eu bwriad i adael y ddwy gystadleuaeth Ewropeaidd bresennol ar ddiwedd tymor 2013-14.

Maen nhw'n anhapus gyda dulliau gwahanol dimau o gymhwyso ar gyfer Cwpan Heineken, a sut y mae'r arian o'r gystadleuaeth yn cael ei ddosbarthu.

Byddai'r fformat newydd yn cynnwys timau o Loegr a Ffrainc a hefyd yn agored i eraill.

Mae Cwpan Heineken, a sefydlwyd ar ddechrau tymor 1995-96, yn cynnwys timau o Loegr, Cymru, Ffrainc, Iwerddon, Yr Alban a'r Eidal.

Cymhwyso

Dadl clybiau Lloegr a Ffrainc yw bod clybiau a rhanbarthau o'r pedair gwlad arall â mantais annheg yn Ewrop.

Gan nad yw clybiau a rhanbarthau yn medru colli eu lle yng nghynghrair y Pro12, mae timau'n medru gorffwys eu sêr wrth baratoi am gemau yn Ewrop, ac mae'r ddau dîm yn Yr Alban a'r Eidal yn sicr o'u lle yng Nghwpan Heineken.

Mewn datganiad dywedodd Premiership Rugby, sy'n cynrychioli'r 12 tîm ar lefel uchaf rygbi Lloegr, eu bod wedi argymell sefydlu dwy gystadleuaeth gydag 20 tîm yr un i gymryd lle Cwpan Heineken a Chwpan Her Amlin.

Ond ychwanegodd bod "trafodaethau wedi bod yn aflwyddiannus a gall y clybiau ond ddod i'r casgliad bod unrhyw drafodaethau ar gytundeb Ewropeaidd newydd bellach wedi dod i ben".

Meddai'r datganiad: "O ystyried pwysigrwydd y sefyllfa bresennol, a'r cadarnhad na fydd clybiau Ffrainc yn rhan o unrhyw gystadleuaeth oni bai bod clybiau Lloegr yn cael eu cynnwys, mae'r clybiau wedi gofyn i Premiership Rugby i weithredu ar frys i sefydlu cystadleuaeth o 2014-15 fydd yn cynnwys clybiau Ffrainc a Lloegr, ond fydd hefyd yn agored i dimau o wledydd eraill."

Dywedodd European Cup Rugby, sy'n gyfrifol am y ddwy gystadleuaeth bresennol, y byddai pawb sy'n rhan o'r broses ymgynghori yn cael eu cynrychioli mewn cyfarfod o'r bwrdd yn Nulyn ddydd Mercher.

Ychwanegodd mewn datganiad: "Er bod elfen o rwystredigaeth ymysg aelodau ERC am y diffyg cytuno ar ffordd ymlaen, bydd y cyfarfod yn rhoi cyfle i bawb adolygu'r broses ymgynghori hyd yma."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol