Cyngor i drafod dyfodol hen ysbyty meddwl Dinbych

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o'r adeiladau yn rhestredig ond mewn cyflwr difrifol erbyn hyn

Bydd cynghorwyr Sir Ddinbych yn trafod ddydd Mercher a fyddan nhw'n ceisio cael gorchymyn prynu gorfodol ar gyfer safle hen ysbyty meddwl Dinbych.

Mae cyflwr yr adeiladau wedi bod yn bryder i drigolion yr ardal ers amser.

Cwmni o'r Ynysoedd Virgin yw'r perchnogion ond mae'r cyngor wedi gorfod gwario bron i £1m er mwyn gwneud y safle'n ddiogel.

Roedd sôn ar un adeg am godi tai ar y safle ond does dim wedi digwydd hyd yma.

Un syniad yw datgymalu'r ysbyty yn gyfan gwbwl a'i ailgodi yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, Caerdydd.

'Lle pwysig'

Yn ôl Bobi Owen, o Gymdeithas Hanes Dinbych, mae'r safle yn bwysig i hanes yr ardal.

"Mae'r ysbyty yma ers 1848, 'di cael ei sefydlu gan chwe sir y gogledd ar gyfer pobl gwan eu meddwl ac isel eu hysbryd.

"Mae'n le pwysig pwysig iawn yn hanes, bywyd a diwylliant y dre' i ddweud y gwir. At tua'r Rhyfel Byd Cynta', roedd' na dros fil o gleifion yno a channoedd o staff hefyd - yn feddygon, nyrsys, yn arddwyr, seiri - pob mat o alwedigaethau. Roedd 'na ddigon o waith a fanno oedd y rhan fwya' o bobl y dre' a'r ardal yn mynd."

Mae nifer o'r adeiladau mewn cyflwr difrifol erbyn hyn, ac ôl Mr Owen, mae hynny'n "siomedig iawn".

"Dwi 'di cael fy siomi gan y perchnogion, wrth gwrs, a hefyd yr awdurdodau. Ddylsa' bod nhw wedi gwneud rhywbeth pendant llawer cyn hyn.

"Mae fandaliaeth yn rhemp yno. Fuodd 'na dân ofnadwy yn 2009 dwi'n meddwl, ac mae'r adeilad wedi'i restru ac mae'r lle yn anferth o faint. Mae'n gywilydd gweld y lle fel mae o, o ystyried fel yr oedd o."

Sain Ffagan

Mae Maer y dre', Gaynor Morgan Rees, o blaid y cyngor yn cymryd perchnogaeth o'r safle.

"Dwi ddim yn meddwl bod ganddyn nhw ddewis," meddai. "Mae'n rhai iddyn nhw gymryd e drosodd neu bydd y lle yn cwympo lawr.

"Ma' nhw eisoes wedi gwario'n helaeth, dim ond i warchod yr adeilad rhag y tywydd.

"Yn bersonol, oherwydd bod e'n adeilad unigryw, rwy'n credu y dyle fe gael ei gadw. Be' f'aswn i'n licio ei weld ydy bod e'n mynd i Sain Ffagan.

"...Mae ganddyn nhw'r lle a mi f'asech chi'n gallu cadw blaen yr adeilad ac mi allech chi adeiladu unrhyw beth y tu ôl.

"Be' f'asa rhai pobl yn hoffi gweld ydy parc gwledig. Ond tra bod yr adeilad yn sefyll, eto 'da ni'n sôn am arian mawr i warchod yr adeilad felly faint o arian fyddai'n weddill i wario ar ddim byd arall, dwi ddim yn gwybod."

Mae perchnogion presennol y safle, Freemont, yn dweud y byddan nhw'n gwrthwynebu unrhyw gynllun i'w gorfodi nhw i werthu i'r cyngor sir. Ond hyd yn oed os bydd aelodau'r pwyllgor cynllunio yn penderfynu bwrw ymlaen, fe allai'r broses gymryd o leia' blwyddyn a hanner.