Cefnogi gorchymyn prynu gorfodol i hen ysbyty meddwl
- Cyhoeddwyd
Gall hen ysbyty meddwl gael ei phrynu gan gyngor sir wedi i gynghorwyr bleidleisio o blaid gweithredu gorchymyn prynu gorfodol.
Mae Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych wedi cau ers 1995, ac ers hynny mae cyflwr y safle wedi dirywio.
Penderfynodd Cyngor Sir Ddinbych ddechrau'r broses o weithredu gorchymyn prynu gorfodol, ond dywedon nhw eu bod am ddod i gytundeb gyda'r perchennog yn gyntaf.
Mae'r perchennog, Freemont (Denbigh) Ltd eisoes wedi dweud y byddan nhw'n gwrthwynebu unrhyw orchymyn.
Cafodd yr ysbyty ei gau fel rhan o ad-drefnu gwasanaethau iechyd, ond ers ei gau mae'r adeiladau wedi eu fandaleiddio a'u difrodi gan dân.
Mae'r Cyngor wedi dweud y byddai'r gwaith atgyweirio yn costio £930,000.
Dyfodol
Roedd Freemont wedi cael caniatâd cynllunio i adeiladu 280 o dai, busnesau a chyfleusterau i'r gymuned. Fel rhan o'r gwaith byddai'r adeiladau rhestredig hefyd yn cael eu hadnewyddu.
Ond daeth y caniatâd yma i ben yn 2009.
Penderfynodd cynghorwyr o blaid ceisio sicrhau gorchymyn prynu gorfodol o 18-1 mewn cyfarfod ddydd Mercher.
Mae grŵp di-elw wedi cael ei sefydlu i reoli'r safle os bydd y gorchymyn yn llwyddiannus.
Ond cyn hynny bydd rhaid sicrhau Llywodraeth Cymru bod tebygoliaeth resymol y bydd yr adeiladau rhestredig yn cael eu hatgyweirio gyda'r arian fyddai'n cael ei godi o werthu rhan o'r tir.
Mae sawl syniad am ddefnydd y safle wedi eu cynnig. Un oedd datgymalu'r ysbyty yn gyfan gwbwl a'i ailgodi yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, Caerdydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Medi 2013
- Cyhoeddwyd4 Awst 2013
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2013