Cofio glowyr y Gleision

  • Cyhoeddwyd
Charles Breslin, Phillip Hill, Garry Jenkins a David PowellFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Y pedwar fu farw oedd: Charles Breslin (chwith uchaf), Phillip Hill(dde uchaf), Garry Jenkins (chwith isaf) a David Powell (dde isaf).

Mae cofeb ar gyfer y pedwar dyn fu farw yn nhrychineb glofa'r Gleision ger Pontardawe yn 2011 wedi cael ei dadorchuddio.

Bu farw Philip Hill, 44 oed, Charles Breslin, 62 oed, David Powell, 50 oed a Garry Jenkins, 39 oed, ar ôl cael eu cau yn y pwll.

Bydd cofeb arall, fwy yn cael ei dadorchuddio yn Senghennydd ym mis Hydref fydd yn cynnwys llinell er cof am y pedwar.

Cafodd y llinell ei hychwanegu yn dilyn ffrae, a gododd gan nad oedd cyfeiriad at y pedwar ar y gofeb wreiddiol.

Trychineb

Cafodd y gofeb ei dadorchuddio yn safle hen bwll glo Tarenni ym mhentref Godre'r Graig, ger Ystradgynlais.

Digwyddodd y drychineb yn chwarel Gleision ar ddydd Iau 15 Medi 2011. Cafodd sylw cenedlaethol ei roi i'r digwyddiad wrth i wasanaethau brys geisio achub y pedwar, wedi i wal oedd yn dal dŵr ildio.

Llwyddodd tri glöwr i ddianc wrth i'r dŵr lenwi'r chwarel, ac fe wnaeth dau ohonynt geisio achub eu pedwar cyd-weithiwr.

Ond darganfuwyd cyrff y pedwar yn hwyrach, yn agos at ei gilydd.

Mae rheolwr y chwarel Malcolm Fyfield wedi ei gyhuddo o ddynladdiad ac fe ymddangosodd yn Llys Ynadon Caerdydd ym mis Chwefror yn wynebu pedwar cyfrif o ddynladdiad trwy esgeulustod difrifol.

Yn ogystal, mae'r cwmni sy'n berchen y pwll glo, MNS Mining Ltd, wedi ei gyhuddo ar bedwar cyfrif o ddynladdiad corfforaethol.

Bydd hi'n ddwy flynedd ers y drychineb ddydd Sul.