Achos Gleision: Rheolwr o flaen llys

  • Cyhoeddwyd
Malcolm FyfieldFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Siaradodd Malcolm Fyfield i gadarnhau ei fanylion personol yn unig

Mae tri o ddynion wedi ymddangos gerbron llys i wynebu cyhuddiadau yn ymwneud â marwolaethau pedwar o ddynion ym mhwll glo'r Gleision ger Pontardawe yn 2011.

Fe ymddangosodd y rheolwr Malcolm Fyfield, 57, a dau o gyfarwyddwyr cwmni MNS Mining Ltd o flaen Llys Ynadon Caerdydd fore dydd Gwener.

Mae Mr Fyfield yn wynebu pedwar cyhuddiad o ddynladdiad ar sail esgeulustod dybryd ac mae'r cwmni'n wynebu pedwar cyhuddiad o ddynladdiad corfforaethol.

Bu farw Philip Hill, 44 oed, Charles Breslin, 62 oed, David Powell, 50 oed a Garry Jenkins, 39 oed, ar ôl cael eu caethiwo yn y pwll ar Fedi 15, 2011.

Dim ond siarad i gadarnhau ei enw, ei gyfeiriad a'i ddyddiad geni wnaeth Mr Fyfield yn y gwrandawiad.

Cafodd Mr Fyfield ei ryddhau ar fechnïaeth amodol.

Cafodd yr achos ei gyfeirio at Lys y Goron Abertawe a bydd y gwrandawiad nesa' yn cael ei gynnal ar Chwefror 11.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol