Gleision: Ailfeddwl am gofeb i'r glowyr fu farw
- Cyhoeddwyd
Bydd geiriau i gofio'r pedwar dyn a fu farw yn namwain pwll glo'r Gleision yn cael eu cynnwys ar gofeb lofaol genedlaethol wedi'r cyfan.
Cafodd cynlluniau ar gyfer y gofeb eu beirniadu am beidio â chynnwys y digwyddiad yng Nghwm Tawe. Dyw'r ddamwain ddim yn cael ei chydnabod yn swyddogol fel trychineb.
Ond, yn dilyn yr ymateb, mae'r trefnwyr wedi ailfeddwl a bydd brawddeg am y Gleision yn cael ei chynnwys ar y gofeb.
Bydd y frawddeg yn cyfeirio at y gobaith mai'r ddamwain hon fydd yr olaf.
Mae disgwyl i'r gofeb gael ei dadorchuddio yn Senghennydd ym mis Hydref.
156 plac
Mi fydd hi'n nodi tua 200 o drychinebau glofaol Cymreig. Bydd 156 plac yn cael eu gosod yn y llawr, un ar gyfer pob pwll ble gollodd dros bump o lowyr eu bywydau.
Roedd yna gryn aniddigrwydd ddechrau mis Ebrill pan ddaeth hi i'r amlwg na fyddai yna blac i gofio am y pedwar dyn a gollodd eu bywydau ym Mhwll y Gleision yn 2011.
Bu farw Charles Breslin, Philip Hill, Garry Jenkins a David Powell.
Yn wreiddiol roedd Grŵp Treftadaeth Cwm Aber, trefnwyr y gofeb, wedi dweud na fyddai yna gyfeiriad penodol at bwll glo'r Gleision, ond y byddai yna blac ychwanegol yn cael ei osod i gofio pob damwain lofaol arall.
Ond ar ôl i'r penderfyniad gael ei feirniadu yn hallt, gan gynnwys llythyrau gan rai o aelodau'r cynulliad, mae'r trefnwyr wedi dweud y bydd 'na eiriau yn cael eu cynnwys i gofio glowyr y Gleision.
'Gobaith'
Dywedodd Jack Humphreys, Cadeirydd y Grŵp:
"Y bwriad yw gosod y geiriau ar y plac i gofio'r holl ddamweiniau glofaol Cymreig eraill ac mae'n debyg y bydd y geiriau yn cyfeirio at y gobaith mai'r pedwar glöwr ym mhwll y Gleision fydd y rhai olaf i gael eu lladd.
"Mi fyddwn ni yn ymgynghori gyda theuluoedd y dynion cyn gwneud y penderfyniad terfynol."
Ers y chwyldro diwydiannol, mae bron i 700 o ddigwyddiadau wedi eu cofnodi mewn pyllau glo ymhob rhan o Gymru. Dywedodd Jack Humphreys nad oedd digon o arian na digon o le ar y gofeb i gofio pob digwyddiad unigol.
Fe seiliodd y trefnwyr eu penderfyniad ar Y Ddeddf Mwynfeydd a Chwareli 1954. Mae hi'n diffinio trychineb fel marwolaethau pum glöwr neu fwy.
Mae 'na ddwy ran i'r gofeb - cofeb lofaol genedlaethol a chofeb i dros 500 o bobl gafodd eu lladd mewn dau ddigwyddiad ar wahan, yn 1901 a 1913, ym mhwll glo Universal yn Senghennydd.
Bydd hi'n cael ei dadorchuddio yn agos at safle'r pwll glo ar Hydref 14, sef canmlwyddiant trychineb lofaol waethaf Prydain.
Yn 1913, collodd 439 o lowyr eu bywydau yn nhanchwa Senghennydd.
Mae'r ymgyrch i godi arian ar gyfer y gofeb yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd27 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2012