Prifysgolion Cymru yn cyhoeddi addysg agored

  • Cyhoeddwyd
MyfyrwyrFfynhonnell y llun, Science Photo Library
Disgrifiad o’r llun,

Mae prifysgolion yn dweud na fydd y newid yn effeithio ar nifer y myfyrwyr sy'n mynychu darlithoedd

Mae Prifysgolion yng Nghymru wedi cyhoeddi eu bwriad i roi eu holl adnoddau academaidd ar y we er mwyn i bobl ar draws y byd eu defnyddio.

Mae'r cynllun yn golygu y bydd cyrsiau a modiwlau cyfan yn cael eu rhoi ar lein, yn ogystal â darlithoedd, papurau academaidd a fideos.

Y nod yw sicrhau bod Cymru yn rhan o chwildro addysg ddigidol sy'n digwydd yn fyd-eang.

Mae'n golygu y bydd myfyrwyr a darlithwyr mewn rhannau tlotach o'r byd yn gallu defnyddio gwaith ymchwil drud gan academyddion yng Nghymru.

Chwildro

Mae'r cynllun yn rhan o duedd byd-eang i ddefnyddio'r we er mwyn rhoi mwy o gyfleoedd i bobl gael addysg uwch.

Mae nifer cynyddol o gyrsiau yn cael eu cynnal ar-lein yn unig, ac mae mynediad i'r deunyddiau am ddim.

Gall fyfyrwyr o rannau tlotach o'r byd ddefnyddio'r deunyddiau na fyddai ar gael iddynt fel arall, neu gall unrhyw un yn y wlad yma ddysgu am bynciau newydd o'u cartrefi.

Er bod y deunyddiau ar gael i bawb, mae'r prifysgolion yn dweud nad yw'n rhoi'r "profiad dysgu" llawn, ac felly nid oes disgwyl i'r newid effeithio ar niferoedd myfyrwyr sy'n mynychu prifysgolion.

"Mae myfyrwyr yn gwneud mwy a mwy ar-lein ond dydy hynny heb gael effaith ar fyfyrwyr yn dod i ddarlithoedd," meddai Clive Mulholland, dirprwy is-ganghellor Prifysgol De Cymru.

"Dydy'r deunydd academaidd, yr hyn sydd ar lein, ond yn sail i'r profiad dysgu.

"Y ffordd mae myfyrwyr yn gweithio gyda'r deunydd, y ddarlith a myfyrwyr eraill sy'n creu'r profiad yna."

'Rhannu gwybodaeth'

Mae'r cynllun yn ei ddyddiau cynnar, ond mae'r gwaith eisoes wedi dechrau mewn rhai sefydliadau.

Mae Addysg Uwch Cymru, sy'n cynrychioli sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn dweud bod y cyhoeddiad yn dangos bwriad i greu cynllun weithredu clir.

"Mae'n rhoi pleser mawr i arwyddo'r datganiad, a drwy wneud hynny rhoi Cymru ar y blaen ymysg sectorau addysg uwch y byd i ddatgan ei hun fel gwlad addysg agored," meddai'r Athro Colin Riordan, cadeirydd Addysg Uwch Cymru.

"Mae rhannu gwybodaeth yn gyfrifoldeb arnom ni, ac rydw i'n credu ein bod yn cwblhau'r cyfrifoldeb yma drwy sicrhau addysg agored yn y sector addysg uwch yng Nghymru."