Galw am oedi wrth drafod ffracio
- Cyhoeddwyd
Bu pobl sy'n pryderu am y broses o ffracio am nwy yn cynnal protest y tu allan i'r Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Mawrth.
Maen nhw'n galw ar wleidyddion i wneud yn siŵr na fydd y broses yn digwydd yng Nghymru tan fod yna dystiolaeth i ddangos ei bod yn ddiogel.
Mae'r broses yn golygu chwistrellu tywod a hylif i'r creigiau dan ddaear er mwyn eu gwahanu a rhyddhau'r nwy.
Nos Lun cafodd cyfarfod cyhoeddus ei gynnal ym Mhorthcawl i drafod gwerth ffracio i'r economi a hefyd pryder eraill am yr effaith ar yr amgylchedd.
'Lot o risgiau'
Yn ystod y cyfarfod dywedodd Gareth Clubb, o Gyfeillion y Ddaear Cymru, fod ei fudiad eisiau oedi'r broses yng Nghymru.
"Mae'r ffordd yma o gael nwy allan o'r creigiau yn golygu lot o risgiau, nid yn unig i'r amgylchedd ond i'r cenedlaethau sydd i ddod," meddai.
"Gallwn ni yng Nghymru ddysgu o beth sy'n mynd ymlaen yn Lloegr. Pe bai'r dechnoleg yn Lloegr yn 100% saff yna gallwn drafod os yw hi'n beth da i fwrw 'mlaen."
'Iaith rhy gryf'
Ond dywedodd yr Aelod Cynulliad Ceidwadol Suzy Davies fod rhai yn euog o godi bwganod wrth drafod y pwnc.
"Rwyf am sicrhau ein bod yn cymryd amser cyn penderfynu bwrw 'mlaen ond mae rhai yn defnyddio iaith rhy gryf wrth sôn am beryglon heb fod tystiolaeth i brofi hyn.
"Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dweud eu bod nhw am yr ynni newydd yma," meddai.
"Ond maen nhw'n dweud mai'r peth pwysig iddyn nhw yw bod cymunedau sy'n wynebu ffracio yn deall beth sy'n digwydd...ac yn cael siawns i gefnogi fe os dy nhw eisiau hynny.
"Nid ydym yn dweud y bydd pawb yn erbyn - mae yna gymunedau sy'n fodlon ei ystyried."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2011