Anghyfod EOS: Argyfwng mwyaf Radio Cymru meddai Siân Gwynedd

  • Cyhoeddwyd
Eos
Disgrifiad o’r llun,

Mae Eos yn dweud bod cerddorion Cymraeg yn haeddu mwy na'r £100,000 mae'r BBC yn ei gynnig

Colli'r hawl i ddarlledu cerddoriaeth aelodau Eos am chwe wythnos ddechrau'r flwyddyn oedd yr argyfwng mwyaf i Radio Cymru ei wynebu erioed, yn ôl Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru, Siân Gwynedd.

Roedd hi yn siarad yn ystod ail ddiwrnod y tribiwnlys hawlfraint sydd yn cael ei gynnal yng Nghaernarfon.

Mae'r tribiwnlys yn ystyried faint ddylai'r BBC dalu am ddarlledu cerddoriaeth aelodau Eos.

Rhwng 1 Ionawr 2013 a chanol Chwefror, doedd gan y BBC yr hawl i ddarlledu cerddoriaeth aelodau Eos oherwydd anghydfod dros werth masnachol yr hawliau darlledu.

Cyhoeddodd y tribiwnlys benderfyniad dros dro ym mis Mai, sef y dylai'r BBC dalu £120,000 y flwyddyn i Eos er mwyn chwarae cerddoriaeth aelodau'r asiantaeth, wedi i'r ddwy ochr gytuno ar y swm hwnnw ym mis Chwefror.

Mae Eos am i'r tribiwnlys llawn gynyddu'r taliad hwnnw i £1.5 miliwn y flwyddyn, tra bod y BBC wedi dweud byddai taliad blynyddol o £100,000 yn bris teg ar gyfer yr hawl i ddarlledu gwaith y cerddorion.

Wrth gael ei chroesholi gan y bargyfreithiwr Gwion Lewis ynglŷn â'r newid a gafwyd i amserlen BBC Radio Cymru ddechrau'r flwyddyn, dywedodd Siân Gwynedd fod y cyfnod wedi bod yn un niweidiol i'r orsaf.

Tribiwnlys i benderfynu

Pan holwyd hi a oedd hi'n credu bod £100,000 y flwyddyn am drwydded i ddarlledu cerddoriaeth aelodau Eos yn ddigonol, dywedodd mai rôl y tribiwnlys oedd penderfynu ar werth cywir gweithiau Eos.

Yn ystod y bore trafodwyd effaith peidio medru chwarae'r gerddoriaeth ar ffigyrau gwrando RAJAR Radio Cymru.

Dywedodd Siân Gwynedd bod y ffigyrau chwarterol mewn gwirionedd wedi eu seilio ar ymchwil dros chwe mis felly roedd y cwymp yn ffigyrau Ionawr i Fawrth 2013 mewn gwirionedd yn ymwneud ag ymchwil a gwblhawyd rhwng Hydref 2012 a Mawrth 2013, ac yn cynnwys cyfnod pan newidiwyd rhaglenni newyddion hefyd.

Cerddoriaeth premiwm

Cafwyd tystiolaeth gan Dafydd Roberts, sy'n aelod o fwrdd Eos hefyd. Wrth gael ei holi gan far-gyfreithiwr y BBC dywedodd fod cwymp yn nifer y bobl sydd yn prynu cerddoriaeth a'r dirwasgiad wedi golygu bod cerddorion wedi dioddef mwy o galedi yn y blynyddoedd diwethaf.

Dywedodd fod y gerddoriaeth sydd yn cael ei chwarae ar Radio Cymru yn gynnyrch "premiwm" am mai dim ond 1% o'r boblogaeth ym Mhrydain sydd yn medru darparu caneuon i'r orsaf.

Holwyd cadeirydd Eos, Gwilym Morus yn ystod y diwrnod am y cytundeb dros dro rhwng Eos a'r BBC.

Gwrthododd yr honiad fod Eos wedi cytuno iddo am fod aelodau yn colli arian yn ystod y chwe wythnos pan nad oedd eu cerddoriaeth yn cael ei chwarae.

Dywedodd hefyd wrth y tribiwnlys nad oedd Eos wedi mynd ati yn fwriadol i niweidio Radio Cymru pan na chafwyd cytundeb gyda'r BBC ynglŷn â'r drwydded ar ddiwedd 2012 - dywedodd mai'r sefyllfa honno oedd yr unig drywydd oedd yn agored iddyn nhw.