'Arian wedi difetha rygbi' medd Max Boyce

  • Cyhoeddwyd
Max Boyce
Disgrifiad o’r llun,

Bydd rhaglen i ddathlu pen-blwydd Max Boyce yn 70 yn cael ei darlledu ar BBC1 nos Fercher

Bydd gweld chwaraewyr rygbi gorau Cymru yn gadael am Ffrainc yn digwydd yn amlach os na fydd Undeb Rygbi Cymru yn camu i mewn - dyna farn y diddanwr Max Boyce.

Ar drothwy ei ben-blwydd yn 70, bydd BBC Cymru yn darlledu rhaglen arbennig i nodi'r achlysur nos Fercher.

Ond mewn cyfweliad arbennig gyda Newyddion Ar-lein, bu'n rhannu ei farn am rygbi ac am dalent gerddorol Cymru.

Pan ofynnwyd iddo a oedd rygbi yng Nghymru yn well neu'n waeth nag yn nyddiau aur y 1970au, roedd yn ddi-flewyn ar dafod.

"Falle mod i'n rhamantaidd ond roedd pethe lot gwell bryd hynny," meddai.

"Mae'r arian wedi spoilio'r gêm, ac fe fydd e'n spoilo fe'n waeth dros y blynyddoedd nesaf. Falle bod e'n well neu'r un peth ar y cae, ond sa i'n credu bod yr ysbryd yr un peth off y cae.

"Maen nhw wedi colli'u ffordd, achos arian yw popeth. Chi'n mynd i gael sefyllfa fel soccer lle dim ond Chelsea a Manchester City a'u tebyg sy'n gallu fforddio ennill pencampwriaeth.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jamie Roberts yn un o ser Cymru sydd wedi symud i glwb yn Ffrainc

"Mae'r un peth yn dod i rygbi lle dim ond clybiau Ffrainc fydd yn ennill pethe mewn blynyddoedd i ddod.

"Cytundebau canolog yw'r unig ffordd o gadw chwaraewyr yng Nghymru. Dyw'r rhanbarthau - Y Gweilch hyd yn oed - ddim yn gallu fforddio talu'r cyflogau mawr a bydd yr exodus yn parhau os na fydd yr Undeb (Rygbi Cymru) yn gwneud rhywbeth."

Gresynu

Nid yw'n syndod clywed yr angerdd yn llais Max Boyce wrth son am rygbi. Bu'r gamp yn ganolog i'w lwyddiant - llwyddiant a ddechreuodd 40 mlynedd yn ôl pan recordiodd y cyn löwr noson o adloniant yng Nghlwb Rygbi Treorci.

Fe werthodd y record - Live at Treorchy - gannoedd o filoedd o gopïau, ac fe lansiwyd gyrfa arweiniodd at Max Boyce yn cael ei anrhydeddu gyda'r MBE yn 1999.

Pe na bae'r record wedi llwyddo mae Max yn credu y gallai fod wedi parhau gyda'i waith o dan ddaear.

Mewn erthygl yng nghylchgrawn The Listener yn 1979, fe welwyd y dyfyniad yma: 'Until Max Boyce I can think of no-one else who has become famous outside Wales for his Welshness.'

Disgrifiad o’r llun,

Mae Cerys Matthews ymhlith y ser fydd yn ymddangos ar Max Boyce's Big Birthday

Mae Max yn cofio'r erthygl yn iawn, ac yn gresynu nad oes mwy o dalent o Gymru wedi llwyddo y tu allan i'r wlad.

Fe fydd rhai sydd wedi llwyddo - gan gynnwys y gantores Sophie Evans, Cerys Matthews ac Only Men Aloud yn ymddangos ar y rhaglen ar BBC 1 nos Fercher, ond dywedodd Max Boyce hefyd:

"Sa i'n gwybod pam, ond dwi ddim yn credu ein bod ni fel cenedl yn geffylau blaen.

"Ry'n ni'n swil fel cenedl ac mae hynny'n biti. Mae'n rhaid i bobl ifanc talentog gael be mae'r Sais yn ei alw'n 'total belief in your own excellence' - os fyddan nhw'n credu fe allan nhw wneud unrhyw beth."

Maswr

Roedd Max Boyce yn cyfadde' y byddai'n fodlon cyfnewid ei lwyddiant ar lwyfannau ar draws y byd am fod wedi cael ennill un cap i Gymru.

"Bydden, fydden i wedi swopio'r cyfan - fi fel maswr a Gareth Edwards tu fewn i fi - neb arall! Dim ond fe a fi fydde eisiau."

Bellach mae un o ganeuon enwocaf Max Boyce - Hymns and Arias - i'w chlywed yn stadiymau pêl-droed Uwchgynghrair Lloegr gan fod cefnogwyr Abertawe wedi mabwysiadu'r gan, ac mae hynny'n plesio.

"O'n i'n synnu clywed y gan yn Old Trafford a Lerpwl, ond o'n i'n synnu clywed y gan ym Mharc yr Arfau nol yn y dechrau cofia.

"Mae Abertawe yn ddinas soccer a rygbi, a dyna fel mae e wedi digwydd dwi'n credu - ond mae e'n grêt."

Bydd MAX BOYCE'S BIG BIRTHDAY yn cael ei darlledu ar BBC1 Wales am 9:00pm ar nos Fercher, Medi 25, a bydd enwau mawr rygbi a diddanu yng Nghymru yn cymryd rhan.