Diffoddwyr yn streicio dros bensiynau
- Cyhoeddwyd
Mae penaethiaid y gwasanaeth tân yn dweud bod ganddyn nhw gynlluniau argyfwng mewn lle wrth i ddiffoddwyr streicio ddydd Mercher.
Fe ddechreuodd streic bedair awr y diffoddwyr am hanner dydd ddydd Mercher.
Mae aelodau o'r lluoedd arfog yn barod i ymateb yn ne Cymru, ac fe fydd galwadau mewn mannau eraill yn cael eu blaenoriaethu.
Fe ddywed undeb y diffoddwyr tân (FBU) y byddai diffoddwyr yn gorymdeithio i'r Senedd ym Mae Caerdydd i ddangos eu gwrthwynebiad i newidiadau pensiwn.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod yn rhaid i bensiynau yn y sector cyhoeddus fod "yn gynaliadwy".
Mae llywodraeth y DU yn mynnu bod y cynnig pensiynau yn "hael".
Cynlluniau
Yn ne Cymru, mae'r cynlluniau wrth gefn yn cynnwys chwe injan dân fydd a chriwiau o'r lluoedd arfog arnynt ac wedi eu lleoli mewn canolfannau strategol yn Abertyleri, Y Fenni, Pen-y-bont ar Ogwr, Casnewydd, Pontypridd a dwy yn ardal Caerdydd.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu bod yn cynghori pobl i fod yn ofalus, ond eu bod yn ffodus bod llawer o'u staff ddim yn aelodau o'r FBU ac yn gweithio fel arfer.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu bod yn disgwyl y bydd nifer fawr o'u staff yn rhan o'r gweithredu diwydiannol a fydd yn digwydd yng Nghymru a Lloegr tan 4:00pm ddydd Mercher.
Ynghyd â'r brotest ym Mae Caerdydd, mae disgwyl llinellau piced y tu allan i orsafoedd tân ar draws Cymru.
Mae awdurdodau lleol wedi rhoi cyngor i staff mewn ysgolion, cartrefi gofal a chanolfannau hamdden, ac wedi cynnal trafodaethau gyda diwydiannau ac asiantaethau eraill cyn y gweithredu.
Dywedodd dirprwy bennaeth Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru Chris Davies:
"Er ein bod yn gwerthfawrogi pryderon rhai o'n staff ynghylch toriadau arfaethedig y llywodraeth i bensiynau, ein blaenoriaeth yw sicrhau diogelwch y cyhoedd drwy ddarparu'r gwasanaeth gorau bosib yn ystod cyfnod y streic.
"Er hynny does dim osgoi'r ffaith y bydd ein gallu i ymateb i argyfwng yn llai yn ystod y cyfnod yma.
"Os fydd argyfwng fodd bynnag, rhaid i'r cyhoedd ddeialu 999 ac fe fydd ymateb argyfwng yn cael ei ddarparu."
'Colli miloedd'
O dan gynlluniau'r llywodraeth, bydd diffoddwyr yn Lloegr yn derbyn eu pensiwn llawn yn 60 oed. Nid oes cytundeb hyd yma ar bensiynau yn Yr Alban na Chymru.
Dywed undeb yr FBU nad oes modd i ddiffoddwyr aros yn ddigon heini i weithio yn eu 50au hwyr, ac y byddai hynny'n peryglu diogelwch y cyhoedd.
Mae'r undeb yn dadlau y byddai pobl sy'n ymddeol yn 55 oed er enghraifft yn colli miloedd o bunnau'r flwyddyn.
Dywedodd Gweinidog Tân Lloegr Brandon Lewis: "Mae'r llywodraeth wedi gwrando ar bryderon yr undeb - bydd diffoddwyr yn dal i dderbyn un o'r cynlluniau pensiwn mwyaf hael yn y sector cyhoeddus."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Medi 2013
- Cyhoeddwyd29 Awst 2013