Undeb Rygbi Cymru yn buddsoddi mwy nac erioed: £22.1m
- Cyhoeddwyd
Fe fuddsoddodd Undeb Rygbi Cymru £22 miliwn yn y gêm y llynedd a hynny er bod yna gwymp wedi bod yn yr elw.
Yn ôl adroddiad blynyddol yr Undeb daeth £61 miliwn i'r coffrau yn y deuddeg mis ddaeth i ben ym Mehefin 2013.
Roedd hyn yn cymharu â throsiant o £63 miliwn y flwyddyn gynt.
Ffigyrau "anhygoel"
O ran elw, y ffigyrau oedd £2.3 miliwn ar gyfer 2013, o'i gymharu ag elw o £2.4 miliwn yn 2012.
Dywedodd prif weithredwr yr Undeb Roger Lewis er y gostyngiad bod y ffigyrau yn "anhygoel".
Dywed yr Undeb fod eu dyledion wedi cynyddu rhywfaint ond eu bod yn parhau a'r nod o glirio'u dyledion erbyn 2021.
Yn ôl Mr Lewis mae'r newidiadau o ran strwythur a chyllid a wnaed yn 2006 wedi rhoi'r busnes mewn sefyllfa gref:
"Mae'n costio arian i dalu am newidiadau radical ac i feithrin datblygiad y gêm.
"Felly rwy'n bles i fod wedi gallu rhoi mwy o gymorth ariannol i'n blaenoriaethau, gan gynnwys ein chwaraewyr elit, y gêm gymunedol a Stadiwm y Mileniwm."
Codiad cyflog
Dywed yr undeb fod 2,000 yn ychwanegol o chwaraewyr iau wedi ymuno a'r gamp.
Noda'r adroddiad fod tal Mr Lewis wedi codi o £321,00 i £337,000.
Ond dywed yr adroddiad fod yna her yn parhau i wynebu clybiau a hefyd y rhanbarthau - "sydd eto i gyrraedd eu llawn potensial ar ac oddi ar y cae."
Mewn cyfnod o 18 blynedd dim ond un tîm o Gymru sydd wedi llwyddo i gyrraedd ffeinal Cwpan Heineken.
Yn ddiweddar hefyd mai nifer o chwaraewyr rhyngwladol wedi gadael y timau rhanbarthol gan ymuno a chlybiau yn Ffrainc a Lloegr.