Addysg Gymraeg: Beirniadu cyngor

  • Cyhoeddwyd
Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn y broses o gael barn rhieni ynglŷn â'r galw am addysg Gymraeg

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael eu beirniadu am beidio gwneud digon i hybu addysg cyfrwng Cymraeg yn y sir.

Pedair ysgol gynradd Gymraeg yn unig sydd yn y sir, sydd hefyd yn etholaeth y Prif Weinidog Carwyn Jones, ac mae'r pedair yn llawn.

Dywed y mudiad RhAG (Rhieni dros Addysg Gymraeg) eu bod yn bryderus nad yw'r cyngor yn adlewyrchu'r gwelliant sydd wedi bod mewn ardaloedd eraill tebyg yn ne Cymru.

Yn ôl RhAG dim ond 9% o blant saith mlwydd oed sy'n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod nod o 30% erbyn 2020.

Dywedodd pennaeth Ysgol Gynradd Gymraeg Bro Ogwr bod angen un neu ddwy o ysgolion newydd er mwyn ateb y galw am addysg Gymraeg yn yr ardal.

'Cynnydd yn y galw'

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr:

"Mae gan y cyngor record o wella adnoddau addysgol i ddisgyblion cyfrwng Saesneg a Chymraeg drwy ein rhaglen moderneiddio ysgolion, ac mae gennym Gynllun Strategol Addysg Cyfrwng Cymraeg mewn lle.

"Agorodd ein hysgol uwchradd Gymraeg gyntaf, YGG Llangynwyd, yn 2008 ac mae ein cynlluniau i'r dyfodol yn canolbwyntio ar ysgolion cynradd Cymraeg gan gynnwys adeiladau newydd ar gyfer Ysgol Gymraeg Cwm Garw.

"Rydym hefyd yn edrych ar y dalgylchoedd presennol ac yn ystyried cymunedau mewn rhannau eraill o'r fwrdeistref gan gynnwys ardaloedd fel Porthcawl.

"Er bod lleoedd gwag o hyd yn ein hysgolion yn ein hardaloedd yn y cymoedd, mae unedau wedi cael eu gosod yn Ysgol Gymraeg Bro Ogwr ac Ysgol Y Ferch O'r Sger fel ateb dros dro oherwydd cynnydd yn y galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn ne'r fwrdeistref sirol.

"Rydym yn y broses o arolygu barn rhieni er mwyn llunio darlun o'r galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn y fwrdeistref sirol ac fe fyddwn yn defnyddio'r wybodaeth wrth gynllunio a darparu addysg a pholisïau."

'Cyfrifoldeb'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb i sicrhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg priodol yn eu hardaloedd.

"Ers 2011 mae'r awdurdodau lleol yn wirfoddol wedi cyflwyno Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg i Lywodraeth Cymru.

"Mae'r rhain yn dangos eu cynlluniau am addysg Gymraeg fydd yn ateb y galw gan rieni ac i wella safonau mewn addysg cyfrwng Cymraeg.

"Bydd mesurau drafft yn cael eu cyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol yn Hydref 2013 fydd yn gwneud Cynllun Strategaeth Cymraeg mewn Addysg yn orfodaeth gyfreithiol."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol