Beirniadu 'gwybodaeth gamarweiniol' am gau ysgol

  • Cyhoeddwyd
Plant mewn dosbarth (cyffredinol)
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgyrchwyr yn poeni am effaith cau ar iaith yr ardal

Mae mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg wedi honni bod Cyngor Powys am ddefnyddio "gwybodaeth gamarweiniol" mewn ymgynghoriad ar gynigion i gau Ysgol Gynradd Carno.

Dywedodd y cyngor y byddai'r cabinet yn ystyried unrhyw faterion fyddai'n codi yn ystod yr ymgynghoriad anffurfiol, gan gynnwys nifer y disgyblion a chyflwr yr adeiladau cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud.

Dywedodd y cyngor nad oedd hi wedi bod yn bosib cytuno ar strwythur ysgolion cynradd yn y dyfodol a'u bod wedi penderfynu cynnal ymgynghoriad anffurfiol ynghylch y cynigion i gael ymateb pobl leol a sefydliadau lleol.

Yn ôl RhAG, mae'r cynigion wedi'u selio ar wybodaeth sy'n dyddio'n ôl i Ionawr 2012 - sydd "ddim yn adlewyrchu'r twf diweddar o 84% yn niferoedd y disgyblion a'r gostyngiad dilynol yn nifer y lleoedd gwag a chost addysg fesul disgybl".

'Diffygiol'

Yn ôl adroddiad gerbron cabinet y cyngor sir ym mis Chwefror, roedd 37 o blant ar gofrestr Ysgol Carno yn 2012.

Y Cynghorydd Myfanwy Alexander, Aelod Cabinet Dysgu a Hamdden y cyngor, luniodd yr adroddiad.

Dywedodd fod Ysgol Carno mewn adeilad dros dro ers 1995 a bod yr adeilad yn anaddas ar gyfer dysgu.

Clywodd y cyfarfod mai cost addysgu disgybl yng Ngharno oedd £4,200 a bod hyn yn uwch na throthwy'r cyngor, 10% yn fwy na £3,603.

Yn ôl yr adroddiad, roedd nifer y lleoedd gwag yr ysgol hefyd yn uwch na tharged y cyngor sir.

Nod y cyngor yw trosglwyddo disgyblion Ysgol Carno i Ysgol Llanbrynmair, bum milltir i ffwrdd.

Yn niweidiol

Eisoes mae RhAG wedi honni y byddai cau Ysgol Carno yn niweidiol i'r ddarpariaeth bresennol ac yn atal twf addysg Gymraeg yng ngogledd y sir.

Yn ôl y mudiad, bydd hefyd yn tanseilio gofynion Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Mr Michael Jones, Ymgynghorydd Cyfreithiol RhAG: "Ni ellir cyfiawnhau cyflwyno adroddiad gerbron y cabinet sy'n seiliedig ar ystadegau a gwybodaeth anghywir - a chyflwyno argymhellion wedi'u mabwysiadu yn seiliedig ar y fath wybodaeth.

"Argymhelliad penodol Bwrdd Prosiect Lleol a ffrwd waith Bro Ddyfi oedd ffederaleiddio yn hytrach na chau'r ysgol ...

"Mae adroddiad y Cabinet yn nodi bod yr ysgol wedi derbyn y radd waethaf ond dyfarnodd Llywodraeth Cymru ei hun radd B (boddhaol) i'r adeiladau, sef yr un radd a ddyfarnwyd i ysgolion eraill yn yr ardal.

"Nid yw'r cynigion chwaith yn rhoi ystyriaeth lawn i effeithiau cau'r ysgol ar y pwrs cyhoeddus.

'Cynyddu'

"Mae ffigyrau'r cyngor yn awgrymu y byddai costau cludiant oddeutu £57,000 sydd ond yn ddilys pe cyfyngid hynny i un lleoliad.

"Y gwir amdani yw y gallai cau'r ysgol orfodi rhieni i ystyried darpariaethau eraill fyddai'n cynyddu costau cludiant yn sylweddol iawn."

Bydd Cabinet Cyngor Powys yn ystyried canlyniadau'r ymgynghoriad anffurfiol ym mis Ebrill ac mae'r ymgynghoriad ffurfiol yn debygol o ddod i ben ym mis Gorffennaf.

Os yw'r cynlluniau'n cael eu cymeradwyo gan y cyngor fe fydd Ysgol Carno yn cau ym mis Awst 2014.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Mae'r awdurdod lleol yn adolygu darpariaeth addysg yn nhalgylch Llanidloes a Machynlleth ac fe sefydlwyd Bwrdd Prosiect Ardal ym mis Tachwedd 2010.

"Roedd y bwrdd yn methu â chytuno ar strwythur yr ysgolion cynradd yn y dyfodol.

"Ym mis Ionawr penderfynodd y Cabinet gynnal ymgynghoriad anffurfiol ynghylch y cynigion i gael ymateb pobl leol a sefydliadau lleol.

"Bydd materion fydd yn codi yn ystod yr ymgynghoriad anffurfiol , gan gynnwys niferoedd disgyblion, cyflwr adeiladau a chostau, yn cael eu hystyried gan y cabinet cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol