'Caethwasiaeth': Dynion yn y ddalfa

  • Cyhoeddwyd
Arbenigwyr ar y safleFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu yn credu y gallai corff fod wedi'i gladdu ar y safle ym Maerun

Mae tri dyn sydd wedi eu cyhuddo o droseddau yn ymwneud a chaethwasiaeth ger Casnewydd wedi ymddangos o flaen llys.

Cafodd Daniel Doran, 66, a Thomas Doran, 36, eu cadw yn y ddalfa wedi ymddangosiad gerbron Ynadon yng Ngwmbrân ddydd Iau.

Cafodd trydydd dyn, David Doran, 42, ei gadw yn y ddalfa hefyd.

Cafodd pedwar o bobl eu harestio mewn cyrch ar fferm ddydd Llun, wedi i'r heddlu ddod o hyd i ddyn o Wlad Pwyl yn byw mewn amodau gwael.

Mae dynion wedi eu cyhuddo o gam-garcharu, cynllwynio i gadw person mewn caethwasiaeth a chynllwynio i sicrhau bod person yn cyflawni llafur gorfodol.

Plismyn yn chwilio ym Maerun
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd pedwar person eu harestio wedi'r cyrchoedd yn gynnar fore Llun

Hefyd mae Thomas Doran wedi ei gyhuddo o herwgipio drwy dwyll.

Cafodd dynes 42 oed ei rhyddhau ar fechnïaeth.

Cyrch

Dechreuodd yr ymchwiliad wedi i ddyn gael ei ddarganfod yn byw mewn amodau gwael ym mis Mawrth.

Cafwyd hyd i ddyn arall 60 oed mewn cyrch yn ardal Llansanffraid Gwynllwg ger Casnewydd ddydd Mawrth, ac mae e mewn canolfan feddygol yn cael ei asesu gan arbenigwyr.

Mae'r tri dyn cafodd eu harestio yn y cyrch yna wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth.

'Ymchwiliad cymhleth'

Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Paul Griffiths sy'n arwain yr ymchwiliad: "Mae hwn yn ymchwiliad cymhleth ond sy'n datblygu yn gyflym ac rydym yn diolch i'r cyhoedd am eu cefnogaeth."

Apeliodd unwaith eto i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â nhw ar 101, gan ddefnyddio'r cyfeirnod 66 23/09/13.

"Rwyf hefyd yn gofyn yn bersonol i'r sawl anfonodd lythyr dienw i heddlu arall yn cynnwys honiadau penodol i gysylltu â ni," meddai.

Mae plismyn yn parhau i gloddio ar safle ym Maerun ac yn credu y gallai corff fod wedi'i gladdu yno.

Fe allai'r gwaith chwilio barhau tan y penwythnos.