Bale: Cymdeithas yn colli cyfle

  • Cyhoeddwyd
Gareth Bale yn chwarae i GymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Torrodd Real Madrid record y byd am drosglwyddiad wrth dalu £85 miliwn i Tottenham Hotspur am Gareth Bale

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi ymddiheuro i gefnogwyr wedi i dranc cwmni crysau olygu nad oedden nhw'n medru manteisio ar werthiant Gareth Bale i Real Madrid.

Torwyd record y byd am drosglwyddiad chwaraewr pan symudodd Bale i Real o Tottenham Hotspur rai wythnosau yn ôl am £85 miliwn.

Ond mae llawer o gefnogwyr chwaraewr dryta'r byd wedi methu prynu crysau Cymru gydag enw a rhif Bale arnynt ers i gwmni JJB Sports fynd i'r wal ym mis Rhagfyr y llynedd.

Dywedodd y Gymdeithas eu bod yn mynd i gyhoeddi cytundeb gyda chyflenwr crysau newydd yn fuan.

Ond mynnodd un cefnogwr - Meilyr Emrys, 32 oed o Gaernarfon - bod angen gofyn cwestiynau.

Colli cyfle

Mae Meilyr yn mynd i bob un o gemau cartref Cymru, ac yn teithio i Wlad Belg ar gyfer y gêm yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd fis nesaf.

"Maen nhw (y Gymdeithas) wastad yn cwyno nad oes ganddyn nhw arian, ond pan ddaw cyfle fel hyn i fanteisio ar drosglwyddiad mwyaf erioed Gareth Bale, maen nhw'n colli allan," meddai.

"Dros y cwpwl o flynyddoedd diwethaf mae'r Gymdeithas wedi dod â Jonathan Ford i mewn fel prif weithredwr newydd ac Ian Gwyn Hughes ar yr ochr farchnata, ac mae pethau wedi gwella ers hynny, ond mae'r holl sefydliad angen ail wampio'n llwyr."

Mwy o grysau

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru: "Gallwn ni ond ymddiheuro am y diffyg deunydd a chrysau ar y farchnad manwerthu ar y funud, gan fod gennym gytundeb tymor hir gyda JJB a phan aethon nhw i'r wal ym mis Rhagfyr 2012 doedd dim deunydd gennym i werthu.

"Roedd hyn oherwydd nad oedd JJB wedi cynhyrchu cymaint o grysau ag oedden nhw wedi dweud wrthym ni gan eu bod wedi gweld yr ysgrifen ar y mur ac eisiau arbed cymaint o arian ag oedd yn bosibl.

"Fe lwyddon ni i gael y crysau oedd wedi eu cynhyrchu i'r farchnad drwy gwmnïau kitbag a SportDirect, ond gan fod JJB wedi cynhyrchu stoc cyfyngedig heb ddweud wrthym ni, fe wnaethon ni werthu allan.

"Yn anffodus roedd y mater allan o'n dwylo ni, a doedd y cytundeb gyda JJB ddim yn un wnaeth weithio i'r cefnogwyr.

"Ond rydym wedi arwyddo cytundeb newydd a fydd yn cael ei gyhoeddi'n fuan, ac rydym yn gobeithio cael y crysau ynghyd ag ystod eang o ddeunydd marchnata arall ac fe fyddan nhw ar gael mewn siopau ar ar-lein a hynny cyn y rownd nesaf o gemau."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol