'Cyfraniad rhagorol'
- Cyhoeddwyd
Daeth rhai o sêr y diwydiant ffilm a theledu at ei gilydd yng Nghaerdydd nos Sul ar gyfer noson wobrwyo BAFTA Cymru, gydag un o enwau cyfarwydd BBC Cymru yn cael ei anrhydeddu.
Dewi Llwyd enillodd y Wobr Arbennig am Gyfraniad Rhagorol i Deledu. Bu'n cyflwyno prif raglen Newyddion BBC Cymru ar S4C am dros 30 mlynedd.
Wedi'r seremoni yng Nghanolfan y Mileniwm, dywedodd y cyflwynydd: "Ma' pawb sy'n fy adnabod i yn gwybod 'mod i'n teimlo fod gwaith tîm yn hollbwysig a lle mae'r holl raglenni 'ma yn y cwestiwn, o'r dechreuadau hyd at heddiw, ma' gwaith tîm yn dyngedfennol ac yn sail i bob dim da ma' rhywun yn ei wneud.
"Dwi ddim wedi gorffen eto. Dwi'n mawr obeithio bod 'na fwy i ddod. Ond, yn y cyfamser, mae'n rhaid i mi ddweud 'mod i wedi cael pleser aruthrol heno."
'Cryf iawn'
Sara Lloyd-Gregory enillodd wobr yr Actores, am ei phortread o Alys yn y gyfres ar S4C.
"O'n i'n ffili credu fe," meddai. "O'dd pobl yn dweud o'n nhw 'di gweld gwyneb fi pan o'n i'n cerdded lawr... o'n i jyst yn geg agored... fy enwebiad cynta' i, yn erbyn Ruth Jones a Mali Harries, categori cryf iawn, fi'n hollol gyffrous amdano fe."
Cafodd Michael Sheen ei ddewis fel yr Actor gorau, am ei rôl yn 'The Gospel of Us', y fersiwn deledu o'r ddrama 'The Passion'.
Roedd hi'n noson dda i gwmnïau teledu annibynnol. Enillodd cyfres 'Stella', gan Tidy Productions, dair gwobr gan gynnwys y Ddrama Deledu orau, a daeth Ruth Jones i'r brig yng nghategori'r Awdur gorau.
Gemau Olympaidd
Daeth llwyddiant i dîm Newyddion BBC Cymru yn y categori Rhaglen Newyddion orau am y darllediadau o'r Gemau Olympaidd y llynedd.
Aeth y wobr i'r Cyfarwyddwr Ffuglen gorau i The Indian Doctor, sydd yn cael ei gynhyrchu gan Rondo Media ac Avatar Productions.
Mei Williams gafodd y wobr am y Cyfarwyddwr Gorau Ffeithiol a hynny am y rhaglenni dogfen a ymddangosodd ar S4C, Fy Chwaer a Fi - sef stori dwy chwaer sydd yn dioddef gyda chyflwr niwrolegol.
Cafodd y bargyfreithiwr Gwion Lewis ei anrhydeddu am ei waith ar raglen 'Cymdeithas yr Iaith yn 50'.
Cipiodd Huw Edwards wobr y Cyflwynydd gorau am gyfres 'The Story of Wales'.
Y rhaglen honno enillodd Wobr Alf Williams hefyd, sef y wobr sydd yn cael ei rhoi i raglen neu gyfres sydd wedi cyfrannau at werthfawrogiad o hanes Cymru.
Rhoddwyd Gwobr Siân Phillips i Julie Gardner, y cynhyrchydd o Gymru fu'n gyfrifol am adfywio'r gyfres deledu boblogaidd Doctor Who yn 2005 ac roedd hi wedi teithio o Los Angeles i Gaerdydd i dderbyn y wobr.
Y cyflwynydd Matt Johnson a'r newyddiadurwraig Siân Lloyd oedd yn cyflwyno'r seremoni nos Sul.
2 Hydref 2013: Yn ddiweddarach dywedodd Bafta Cymru eu bod wedi cyhoeddi ar gam fod Newyddion wedi ennill yng nghategori'r rhaglen newyddion orau. Fe ddylai'r wobr fod wedi mynd i raglen ITV Wales, Wales Tonight am eu sylw i'r chwilio am April Jones.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2013