Symud o'r sgrin fach i'r set radio
- Cyhoeddwyd
Wrth i Dewi Llwyd baratoi i gyflwyno y Post Prynhawn ar BBC Radio Cymru am y tro cyntaf ar Ionawr 21, bu'n bwrw golwg yn ôl dros 30 mlynedd gyda Newyddion S4C.
Rhyw deimlad digon od ydi edrych yn ôl ar ddeng mlynedd ar hugain o ddarlledu.
Mae rhywun yn cael ei demtio i ofyn y cwestiwn ystrydebol, i ble yr aeth y blynyddoedd?
Ond rhywle yn yr archifau mae cofnod o bopeth, y digrif yn ogystal â'r difrif, y gwych a'r gwachul.
Ac yno yng nghanol yr hen adroddiadau, mae'r cyflwynydd ifanc gyda'i sbectol rhy fawr, tei llachar a chymaint mwy o wallt!
Weithiau byddai'n well gen i anghofio!
Ers y dyddiau hynny mae chwyldro gwirioneddol wedi digwydd.
Mi ddechreuais i gyda theipiadur hen ffasiwn mewn ystafell newyddion fyglyd.
Roedden ni'n rhyfeddu pan ddaeth y peiriant fax a'n galluogodd ni i gyflwyno'r rhaglen newyddion o Fangor, gan anfon y sgriptiau'n ddyddiol i Gaerdydd.
Bryd hynny 'roedd gen i lun o Bont y Borth y tu ôl i mi.
Erbyn hyn wrth gwrs mae modd darlledu'n fyw o bobman bron, beth bynnag fo'r amgylchiadau a hynny'n gymharol ddirybudd.
Mae doniau technegol fy nghydweithwyr iau'n fy rhyfeddu'n gyson.
Bellach maen nhw'n gallu cyflawni gwaith yr oedd angen pedwar person i'w wneud yn y gorffennol.
Etholiadau a refferendwm
Eto i gyd, mae yna anfanteision hefyd - mae dyn camera da yn arbenigwr yn ei faes, yn gaffaeliad i unrhyw ohebydd oedd am ganolbwyntio ar ohebu, holi, a sgriptio.
Ond mae hynny'n perthyn i gyfnod arall, cyfnod pan oedd y pwrs yn fwy o dipyn.
Go brin y byddai gweithwyr y dyddiau hynny wedi credu y byddai gan Facebook a Twitter ran erbyn hyn yn y gwaith o gasglu a rhannu newyddion!
O orfod dewis uchafbwynt, efallai y buaswn yn dewis dau.
I ddarlledwr newyddion 'does dim yn cymharu â'r nosweithiau etholiadol cynhyrfus, ac erbyn hyn 'dwi wedi bod yn gysylltiedig â saith etholiad cyffredinol, pedwar etholiad Cynulliad a dau refferendwm.
Mae cynnal rhaglen ganlyniadau am oriau benbwygilydd yn her aruthrol i dîm mawr, ymroddgar o bobl.
Yn nyddiau cynnar S4C 'doedden nhw ddim yn glasuron o bell ffordd.
'Dwi'n cofio trafod canlyniad etholaeth Gwyr am ddeng munud yn 1983, a hwnnw'n hollol anghywir!
Ond mae technoleg, gohebwyr lu, ynghyd ag arbenigedd y ddau sydd wrth fy mhenelin i bob amser, Vaughan Roderick a'r Athro Richard Wyn Jones, wedi trawsnewid y rhaglenni hynny.
Ethol Mandela
Ac mae'n siŵr mai noson refferendwm '97, a chyfraniad ein gohebydd ni yng Nghaerfyrddin, John Meredith, fydd yn aros yn y cof yn fwy na'r un.
Fel ail uchafbwynt 'dwi am ddewis stori dramor o gyfnod pan oeddwn i'n teithio llawer mwy, a phan oedd mwy o bwyslais o bosibl ar wneud straeon tramor yn y Gymraeg.
Nid yn unig yr oedd ethol Nelson Mandela yn arlywydd De Affrica yn 1994 yn stori fawr hanesyddol, ond 'roedd hi hefyd yn rhywbeth prin iawn - stori hynod obeithiol.
Wedi aros am ganrifoedd, roedd miliynau o bobl dduon o'r diwedd yn cael yr hawl i bleidleisio. Ac ethol dyn yr oedd byd cyfan yn ei edmygu wnaethon nhw.
'Roedd cael bod yno'n fraint. Ac fel mewn sawl lle arall cynt ac wedyn, roedd cael darlledu oddi yno yn Gymraeg yn wefreiddiol!
'Dwi'n ystyried fy hun yn hynod ffodus, yn dra hwyr yn fy ngyrfa, fy mod wedi cael yr her newydd o gyflwyno'r Post Prynhawn, un o gonglfeini'r gwasanaeth newyddion ar BBC Radio Cymru.
Wedi 20 mlynedd o deithio o Fangor i Gaerdydd, fyddai'n sicr ddim yn colli'r A470! Roedd y siwrnai wythnosol wedi mynd yn fwrn.
Y blaned ar ei hennill
O'r wythnos yma ymlaen 'dwi'n cael cerdded 200 llath i'r gwaith yn hytrach na gyrru 200 milltir.
Rhaid cyfaddef y bydd y blaned yn elwa hefyd.
Mae'r ffordd rhwng de a gogledd yn sicr wedi gwella ac ar adegau 'roeddwn yn hoff iawn ohoni.
'Doedd dim yn well gen i wedi wythnos brysur na mynd heibio i Ddinas Mawddwy, a dringo dros Fwlch yr Oerddrws, gyda Gwynedd ac Eryri o 'mlaen i, a Bangor ychydig dros awr i ffwrdd.
Ond ar waetha amryfal welliannau mae'r daith yn gallu bod yn hir a llafurus o hyd.
Wedi 30 mlynedd o ddarlledu newyddion teledu, 'dwi'n cael mynd at gyfrwng y bûm i'n wirioneddol hoff ohono ers dyddiau plentyndod.
Ac er fod rhai wedi darogan tranc radio chwarter canrif yn ôl, nid yn unig y mae'n dal ei dir, fe fyddai rhai'n dweud ei fod yn mynd o nerth i nerth.
Mae'n hyblyg, yn gyflym, yn uniongyrchol, ac yn agos atoch - y cyfrwng perffaith ar gyfer rhaglen newyddion gynhwysfawr.
Gobeithio y cai'ch cwmni chi bob dydd am bump o'r gloch.
Post Prynhawn BBC Radio Cymru Llun-Gwener 5pm a bydd Degawdau Dewi Llwyd ar S4C, dolen allanol nos Fawrth Ionawr 22 am 9pm.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2012