'Risg i ddiogelwch cleifion,' medd elusen
- Cyhoeddwyd
Mae cleifion yng Nghymru mewn perygl diangen ac fe allai fod rhai wedi marw gan nad yw'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ymateb yn ddigon cyflym i rybuddion ar draws y DU am ddiogelwch cleifion, medd elusen.
Dywed Action Againt Medical Accidents nad oedd yr un o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru wedi ymateb o fewn yr amser priodol i rybuddion o'r fath.
Mae'r elusen yn dweud bod gwelliannau sylweddol wedi bod mewn cydymffurfiaeth, ond bod ganddi bryderon o hyd am ddau fwrdd iechyd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn ystyried diogelwch cleifion yn ddifrifol iawn.
Mae rhybuddion diogelwch cleifion yn cael eu cyhoeddi ar draws y DU pan mae pethau'n mynd o'i le yn y GIG sy'n achosi niwed neu farwolaeth.
Gostyngiad
Ymhlith y rhybuddion sydd wedi eu cyhoeddi gan yr Asiantaeth Diogelwch Cleifion Cenedlaethol mae :-
Gweithdrefnau i leihau'r risg o roi gwaed anghywir i glaf yn ystod trallwysiad;
Hybu defnydd mwy diogel o feddyginiaethau wedi'u chwistrellu;
Atal marwolaethau oherwydd y dos anghywir o feddyginiaethau.
Mae nifer y rhybuddion sydd heb eu clirio ar draws Cymru wedi gostwng o 140 i 61 dros y flwyddyn ddiwethaf - cwymp o bron 60%.
Ond dywed AAMA bod rhai o fyrddau iechyd Cymru heb gydymffurfio'n llawn gyda rhai rhybuddion er bod y dyddiad i wneud hynny wedi pasio dros bum mlynedd yn ôl.
Y raddfa waethaf am gydymffurfiaeth yw ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda, sy'n gyfrifol am Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, oedd heb gydymffurfio gyda 23 o rybuddion iechyd mewn pryd.
'Adolygu ac ail-ddilysu'
Mewn ymateb dywedodd llefarydd: "Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn ystyried cydymffurfio gyda rhybuddion iechyd cleifion yn ddifrifol ac wedi dechrau arolwg o gyfrifoldeb ac atebolrwydd er mwyn gwell ei ymateb.
"Fel sefydliad cymharol newydd rydym hefyd wedi penderfynu adolygu ac ail-ddilysu cydymffurfiaeth gyda rhybuddion diogelwch cleifion yn dyddio nôl i 2002, ac yn credu y bydd yr ymarfer da yma yn ein rhoi mewn sefyllfa hyderus yn nhermau cydymffurfiaeth wrth symud ymlaen.
"Hoffwn sicrhau ein cleifion bod cydymffurfiaeth yn cael ei fonitro'n agos a'i adrodd i bwyllgor safon a diogelwch y bwrdd iechyd."
Yn ôl yr adroddiad roedd perfformiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy'n gyfrifol am ogledd Cymru, hefyd "yn destun pryder" gyda 23 o rybuddion wedi pasio'r dyddiad ymateb priodol.
Dywedodd y bwrdd wrth BBC Cymru na fyddai'n briodol i wneud sylw tan eu bod wedi ystyried yr adroddiad yn llawn.
Roedd dau fwrdd iechyd - Abertawe Bro Morgannwg ac Aneurin Bevan - wedi lleihau nifer y rhybuddion gydag ymatebion hwyr i bedwar yr un med yr adroddiad.
'Perygl diangen'
Casgliad cloi'r adroddiad oedd: "Er bod gwelliannau sylweddol i'w croesawu wedi bod mewn cydymffurfiaeth i rybuddion diogelwch cleifion, mae'n bryderus bod gan Fyrddau Iechyd Hywel Dda a Betsi Cadwaladr gymaint o rybuddion yn weddill, rhai ohonynt flynyddoedd wedi'r dyddiad cau am ymateb, ac nad oes yr un bwrdd iechyd eto wedi cydymffurfio'n llawn.
"Yn ôl Safonau Gwasanaethau Iechyd Cymru dylai fod cydymffurfiaeth o 100%. Mae cleifion mewn perygl diangen.
"Mae'n bosib bod rhai cleifion wedi diodde' niwed neu hyd yn oed wedi marw o ganlyniad i beidio cydymffurfio â'r rhybuddion yma."
Mae'r adroddiad yn awgrymu bod dau fwrdd iechyd - Aneurin Bevan a Betsi Cadwaladr - wedi methu gweithredu mesurau i leihau'r risg o gleifion yn cael y gwaed anghywir mewn trallwysiad, er i'r dyddiad cau am wneud hynny basio ym Mai 2007.
Dim ond tri bwrdd iechyd - Caerdydd a'r Fro, Cwm Taf a Phowys - sydd wedi cwblhau gorchymyn i weithredu gwelliannau i wella darparu ocsigen yn fwy diogel.
Dyddiad cau cydymffurfio â hyn oedd Mawrth 2010.
Mae AAMA wedi galw am adolygiad brys i'r modd y mae diogelwch cleifion yn cael ei reoleiddio yng Nghymru.
Mae'n honni nad yw Arolygiaeth Iechyd Cymru (AIC) wedi medru dangos tystiolaeth eu bod wedi gweithredu er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth gyda rhybuddion diogelwch cleifion.
Ychwanegodd: "Mae'n ymddangos bod AIC wedi anwybyddu ein hadroddiadau blaenorol ac wedi methu gwarchod diogelwch cleifion drwy sicrhau cydymffurfiaeth gyda rhybuddion diogelwch cleifion.
"Mae hyn yn esgeulustod difrifol o'u cyfrifoldebau."
'Angen gwneud mwy'
Dywedodd AIC eu bod yn ystyried rhybuddion o'r fath ochr yn ochr ag ystod eang o wybodaeth wrth baratoi i archwilio neu adolygu cyrff GIG.
Mae'r adroddiad hefyd yn cyhuddo AIC a Llywodraeth Cymru o beidio ystyried diffyg cydymffurfiaeth yn ddifrifol, gan ddweud bod y gweinidog iechyd wedi gwrthod cyfarfod i drafod y materion dan sylw.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn croesawu craffu ar ddiogelwch cleifion - mae'n fater yr ydym yn ystyried o ddifri.
"Er ei fod yn galonogol bod sefydliadau GIG wedi gwneud gwelliannau sylweddol i gydymffurfiaeth â rhybuddion diogelwch cleifion, mae angen gwneud mwy i sicrhau cydymffurfiaeth lawn.
"Rydym yn parhau i fonitro'r data ar draws y byrddau iechyd ac wedi sefydlu grŵp i edrych ar faterion o bryder penodol.
"Rydym wedi datgan yn glir ein bod yn disgwyl i bob sefydliad wneud gwelliannau pellach mewn perthynas â diogelwch cleifion a safon gwasanaethau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2013
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd9 Awst 2012