Teyrnged i fachgen 'disglair' fu farw wedi gwrthdrawiad yn Sir Gâr

Bu farw Leon Arundel yn yr ysbyty ddydd Iau yn dilyn gwrthdrawiad yn ardal Llangynog
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i fachgen 14 oed a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Gaerfyrddin.
Cafodd yr heddlu eu galw i ddigwyddiad y tu allan i eiddo yn ardal Llangynog brynhawn Mercher wedi adroddiadau fod bachgen wedi dioddef anafiadau difrifol.
Cafodd Leon Arundel ei gludo i'r ysbyty a bu farw o'i anafiadau ddydd Iau.
Dywedodd Heddlu Dyfed-powys fod ei deulu yn derbyn cymorth gan swyddogion arbenigol a bod y crwner yn ymwybodol o'r sefyllfa.
Mae llefarydd ar ran y Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn dweud eu bod yn "ymwybodol o'r digwyddiad ac yn gwneud ymholiadau pellach".
'Ffrind annwyl, caredig a gofalgar'
Dywedodd Clwb Ffermwyr Ifanc Sanclêr fod eu "calonnau wedi torri ar ôl colli eu ffrind annwyl".
"Roedd Leon yn garedig, yn ofalgar ac yn aelod gwerthfawr o deulu Ffermwyr Ifanc Sanclêr," meddai'r clwb mewn datganiad.
"Nid oedd ganddo ofn cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd neu gystadleuaeth o farnu stoc i dynnu rhaff.
"Rydym yn cydymdeimlo'n arw gyda'i deulu a'i gyd-aelodau yn y ffermwyr ifanc sy'n galaru wedi'r golled drasig yma."
Wrth rannu eu cydymdeimlad gyda'i deulu, dywedodd clwb pêl-droed Sanclêr fod Leon yn "berson ifanc disglair a gweithgar", gan gyhoeddi eu bod yn gohirio eu gemau ar gyfer y penwythnos fel arwydd o barch.
Roedd Leon hefyd yn chwarae i dîm dan-15 clwb rygbi Carmarthen Quins.
Dywedodd y clwb mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol: "Bydd colled fawr ar ôl Leon gan ei gyd-chwaraewyr, ei hyfforddwyr, rheolwr y tîm ac unrhyw un a gafodd y pleser a'r anrhydedd o'i gyfarfod."
Ychwanegodd y clwb fod eu "cydymdeimlad diffuant yn mynd allan i deulu a ffrindiau Leon".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.