Bafta: Gwobr i'r rhaglen anghywir

  • Cyhoeddwyd
Tlws Bafta Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y seremoni nos Sul

Mae hi wedi dod i'r amlwg fod gwobr Bafta Cymru wedi ei rhoi i'r rhaglen anghywir nos Sul.

Mewn seremoni wobrwyo cyhoeddwyd mai Newyddion BBC Cymru oedd wedi ennill gwobr Newyddion Bafta Cymru.

Yr enillydd go iawn oedd rhaglen Wales Tonight ar ITV.

Mae Bafta Cymru wedi ymddiheuro i'r BBC, ITV ac S4C ac yn dweud y byddan nhw'n cynnal adolygiad o'r drefn bledleisio a sut y cafodd y broses ei rheoli.

Tridiau

Ddydd Mercher cafodd y wobr ei rhoi i ITV oherwydd rhaglen Wales Tonight am ddiflaniad April Jones o'i chartef ym Machynlleth.

Fe wnaeth Bafta gydnabod eu camgymeriad dridiau wedi i gynulleidfa o gannoedd wylio tîm Newyddion yn casglu'r wobr oherwydd eu rhaglen am y Gemau Olympaidd.

Dywedodd cadeirydd Bafta Cymru, Dewi Vaughan Owen, fod y camgymeriad clerigol wedi dod i'r amlwg wedi seremoni nos Sul.

Ddydd Mercher cyflwynodd y wobr i Phil Henfrey, Pennaeth Newyddion a Rhaglenni ITV Wales.

Yn bresennol

Pan ofynwyd iddo a oedd Bafta yn ymwybodol o'r camgymeriad nos Sul dywedodd Mr Owen mai'r cyntaf oedd iddo wybod am y sefyllfa yn oriau mân bore Llun.

Cafwyd cadarnhad bod y person gadeiriodd y panel beirniadu yn bresennol yn y seremoni.

Ond dywedodd Mr Owen nad oedd ef (Mr Owen) wedi cael gwybod am y camgymeriad tan ar ôl i'r seremoni ddod i ben.

Gofynwyd i Mr Owen pam ei bod wedi cymryd tridiau cyn cywiro'r sefyllfa.

Dywedodd fod Swyddfa Bafta Cymru wedi ailymgynnull brynhawn Llun ac ailedrych ar ddogfennau er mwyn cadarnhau'r enillydd cywir.

Dywedodd ei fod yn Llundain yn gweithio ddydd Mawrth ac nad oedd modd cysylltu ag ef tan yn hwyr.

Yn swyddogol

Ond unwaith y cadarnhawyd bod camgymeriad wedi ei wneud fe wnaeth gysylltu ag ITV.

Am 10am ddydd Mercher cafodd y wobr ei rhoi yn swyddogol i Wales Tonight.

Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru: "Yn gyntaf, hoffwn longyfarch tîm Wales Tonight am eu llwyddiant yn ennill y wobr.

"Mae gwobr BAFTA Cymru yn rhywbeth i'w werthfawrogi a dyna pam mae siom ein tîm Newyddion, gan eu bod yn gwybod eu bod wedi cael y wobr ar gam, mor amlwg.

"... rydym wedi ein siomi'n fawr oherwydd yr hyn sydd wedi digwydd.

"Er hynny, mae'r ffaith bod tîm Newyddion wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr yn y lle cyntaf yn adlewyrchu'r gwaith caled ar y rhaglen a'r darllediadau o'r Gemau Olympaidd.

"Rydyn ni wedi derbyn ymddiheuriad Bafta Cymru am y camgymeriad ac wedi gofyn iddyn nhw am sicrwydd na fydd hyn yn gallu digwydd eto."