Beirniadu Coleman am garfan Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae rheolwr Cymru Chris Coleman wedi cael ei feirniadu wedi i bedwar chwaraewr gafodd ei henwi ddydd Iau yng ngharfan Cymru dynnu nôl bron yn syth oherwydd anafiadau.
Yn eu plith roedd Gareth Bale, er nad yw ymosodwr Real Madrid wedi chwarae ond tair gêm i'w glwb newydd ers symud am bris o £85m fis diwethaf.
Daeth yn amlwg yn syth hefyd na fydd tri chwaraewr canol cae - Joe Allen o Lerpwl, Joe Ledley o Celtic ac Andrew Crofts o Brighton - yn holliach i fod yn y garfan chwaith.
Mae amheuon hefyd am ffitrwydd dau arall o'r garfan, sef amddiffynnwr Abertawe Ashley Williams a'r ymosodwr Sam Vokes.
Ni fydd Williams yn chwarae i'w glwb Abertawe yng Nghynghrair Europa nos Iau oherwydd anaf, ac mae rheolwr Abertawe Michael Laudrup yn credu bod angen gorffwys ar ei gapten er mwyn gwella ac yn awyddus i weld Coleman yn dilyn ei esiampl.
'Ddim yn agos'
Mae Coleman o bosib wedi codi gwrychyn staff Real Madrid drwy awgrymu efallai nad oedd Bale yn barod i chwarae pan y gwnaeth i'w glwb newydd.
Dywedodd Coleman wrth gyhoeddi na fyddai Bale yn ddigon iach i wynebu Macedonia na Gwlad Belg ar Hydref 11 a 15:
"Rydym wedi siarad gyda'r meddygon ac fe fyddwn ni hebddo am y ddwy gêm.
"Rydw i wedi dweud ar hyd yr adeg y byddai'n anodd iddo heb gael ymarfer cyn dechrau'r tymor a chael ei daflu i'r pen dwfn.
"Fyddwn i byth yn beirniadu rheolwr arall - mae Carlo Ancelotti (rheolwr Real Madrid) yn rheolwr gwych ond mae tempo Sbaen yn wahanol i'r Uwchgynghrair.
"Efallai bod Carlo yn credu y gallai Gareth ymdopi. Ond y tro diwethaf i Gymru gwrdd doedd e ddim yn agos at fod yn ffit.
"Dyw e ddim yn barod yn gorfforol, ac efallai na fydd e'n barod am sbel."
Beirniadaeth
Yn y cyfamser cafodd Coleman ei feirniadu gan gyn asgellwr Cymru Leighton James am gynnwys Ashley Williams yn y garfan.
Dywedodd James wrth BBC Cymru: "Efallai y byddwn i'n newid fy meddwl pe bai Cymru ar fin chwarae'r gêm gyntaf yn y grŵp.
"Ond does dim gobaith cymhwyso, a does dim gobaith wedi bod ers tro.
"Mae Ashley Williams yn rhan hanfodol o dymor a dyfodol Abertawe. I mi mae'n ddewis amlwg (i'w adael allan)."
Mae Cymru ar waelod eu grŵp yn gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014 ar ôl ennill dim ond dwy o'r wyth gêm hyd yma, a does dim gobaith bellach i gyrraedd y rowndiau terfynol yn Brasil y flwyddyn nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2013