Bale yng ngharfan Cymru er ei anaf

  • Cyhoeddwyd
Chris ColemanFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Chris Coleman wedi enwi ei garfan ar gyfer gemau Cymru yn erbyn Macedonia a Gwlad Belg

Mae rheolwr Cymru wedi cyhoeddi ei garfan ar gyfer y gemau yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Macedonia a Gwlad Belg.

Mae Chris Coleman wedi cynnwys Gareth Bale yn y garfan er nad yw wedi chwarae i'w glwb Real Madrid yn eu dwy gêm ddiwethaf oherwydd anaf.

Ers cyhoeddi'r garfan mae Coleman wedi cadarnhau na fydd Bale yn chwarae unrhyw ran o'r gemau yng Nghaerdydd a Brwsel.

Mae'r un peth yn wir am Ashley Williams - ni fydd capten Abertawe yn chwarae i'w glwb yng Nghynghrair Europa nos Iau oherwydd anaf.

Bydd Cymru'n croesawu Macedonia i Gaerdydd nos Wener Hydref 11 cyn teithio i Frwsel i herio Gwlad Belg ar nos Fawrth Hydref 15.

Does dim modd i Gymru bellach gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn Brasil yn 2014.

Mae cynnwys Bale yn y garfan yn ddewis rhyfedd yn enwedig o ystyried yr hyn ddywedodd Chris Coleman wrth wneud y cyhoeddiad.

Cadarnhaodd Coleman na fydd Bale yn medru chwarae yn yr un o'r ddwy gêm, gan ddweud: "Rydym wedi siarad gyda'r meddygon ac fe fyddwn ni hebddo am y ddwy gêm.

"Rydw i wedi dweud ar hyd yr adeg y byddai'n anodd iddo heb gael ymarfer cyn dechrau'r tymor a chael ei daflu i'r pen dwfn."

Carfan Cymru v. Macedonia a Gwlad Belg :-

Golwyr: Wayne Hennessey (Wolverhampton Wanderers), Glyn Myhill (West Bromwich Albion), Owain Fon Williams (Tranmere Rovers);

Amddiffynwyr: Ben Davies (Abertawe), Danny Gabbidon (Crystal Palace), Chris Gunter (Reading), Adam Matthews (Celtic), Samuel Ricketts (Wolverhampton Wanderers), Neil Taylor (Abertawe), Ashley Williams (Abertawe);

Canol cae: Joe Allen (Lerpwl), Jack Collison (West Ham United ond ar fenthyg gyda Bournemouth), Andrew Crofts (Brighton & Hove Albion), Declan John (Caerdydd), Andy King (Leicester City), Joe Ledley (Celtic), Aaron Ramsey (Arsenal), David Vaughan (Sunderland);

Ymosodwyr: Gareth Bale (Real Madrid), Craig Bellamy (Caerdydd), Simon Church (Charlton Athletic), Hal Robson-Kanu (Reading), Sam Vokes (Burnley).

Chwaraewyr wrth gefn:

Lewis Price (Crystal Palace), David Cornell (Abertawe ond ar fenthyg gyda St.Mirren), Paul Dummett (Newcastle United), Craig Davies (Bolton Wanderers), Steve Morison (Millwall), Joel Lynch (Huddersfield Town), Ashley Richards (Abertawe ond ar fenthyg gyda Huddersfield Town), Shaun MacDonald (Bournemouth), James Wilson (Bristol City), Lewin Nyatanga (Barnsley), Rhoys Wiggins (Charlton Athletic), David Cotterill (Doncaster Rovers), Owain Tudur Jones (Hibernian).

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol