Gwobr i ddynes lolipop o Fro Morgannwg am achub plant
- Cyhoeddwyd
Mae dynes lolipop, a neidiodd o flaen car aeth allan o reolaeth y tu allan i ysgol ym Mro Morgannwg, wedi ennill gwobr am ei dewrder.
Cafodd Karin Williams, 50, o'r Rhws, ei hanrhydeddu yng ngwobrau 'Pride of Britain' yn Llundain.
Roedd y fam i un wedi neidio o flaen car ger croesfan Ysgol Gynradd y Rhws ym mis Mehefin eleni er mwyn amddiffyn plant oedd yn croesi'r ffordd ar y pryd.
Roedd y gyrrwr 61 oed, a oedd yn gyrru ei wyres i'r ysgol, wedi colli rheolaeth o'r car Audi A3 ar ôl cael pwl o besychu.
Cafodd naw o bobl eu hanafu yn ystod y digwyddiad, a chafodd Ms Williams anafiadau difrifol.
Cafodd ei chludo i'r ysbyty ble cafodd lawdriniaeth ar ei phengliniau, coesau, penelin ac ysgwydd.
Fis diwetha' fe wnaeth hi ddychwelyd i'r ysgol i weld y disgyblion, a dywedodd yn ystod yr ymweliad hwnnw:
"Dim ond torri esgyr wnes i a bydd rheiny'n gwella. Rydych un ai'n dod drwyddi neu ddim a dydw i ddim yn mynd i roi lan.
"Alla' i ddim cofio rhyw lawer am beth ddigwyddodd - roedd y cyfan mor sydyn. Rwy'n cofio cael yr arwydd yn fy llaw, troi rownd a gweiddi a dyna ni.
"Y peth nesa' roedd 'na barafeddygon a dynion tân yn fy achub."
Yr actor James Cordon gyflwynodd y wobr i Ms Williams yn y seremoni yn Llundain.
Y cyhoedd sy'n dewis yr enwebiadau, gyda phanel wedyn yn dewis yr enillwyr.
Bydd rhaglen Pride of Britain yn cael ei darlledu ar ITV am 8:00yh nos Fawrth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2013