Craig Bellamy i ymddeol o bêl-droed rhyngwladol
- Cyhoeddwyd
Mae ymosodwr Cymru, Craig Bellamy, yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol ar ddiwedd ymgyrch Cymru yng Nghwpan y Byd.
Daeth cadarnhad y bydd gêm olaf Bellamy yn erbyn Gwlad Belg ym Mrwsel ddydd Mawrth nesaf.
Mae'r Cymro wedi chwarae 76 o weithiau dros ei wlad ac roedd ei gêm gynta' yn 18 oed yn 1998.
"Mae chwaraewyr yn mynd a dod ac mae fy ngyrfa i yn sicr wedi mynd a dod," meddai.
"Rhaid i mi wneud beth sydd orau i'r tîm a'r grŵp yma o chwaraewyr yw'r dyfodol.
"Dydw i ddim am weld y ddwy flynedd nesaf a'r gemau rhagbrofol nesaf.
Ymddeol
Bydd ei gêm ryngwladol olaf yng Nghymru yn erbyn Macedonia nos Wener.
Methodd yr ymosodwr 34 oed nifer o gemau yn 2012 oherwydd anafiadau pan oedd Cymru'n ceisio cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn 2014.
Roedd awgrym na fyddai'n dychwelyd i chwarae i Gymru eto ond daeth yn ôl i garfan Chris Coleman ar gyfer gêm gyfeillgar yn erbyn Awstria ym mis Chwefror.
Wedi ymgyrch siomedig Cymru, sydd ar waelod eu grŵp rhagbrofol yng Nghwpan y Byd, mae wedi penderfynu rhoi'r gorau i'w yrfa ryngwladol.
'Braint'
"Rydw i'n ddiolchgar am bob gêm dwi wedi cael chwarae dros fy ngwlad ac rydw i'n wir feddwl hynny," meddai.
"Mae'n fraint cael chwarae dros eich gwlad ar unrhyw lefel mewn unrhyw gamp.
"(Mae chwarae) dros 70 o weithiau wedi bod yn wych. Hyd yn oed y siomedigaethau, yr adegau isel, hyd yn oed pan doeddwn i ddim eisiau chwarae eto oherwydd dyna mae colli yn gallu ei wneud weithiau.
"Mae cael y fraint o ganu'r anthem 70 o weithiau ... dyna'r teimlad gorau a dydd Gwener fydd y gorau erioed, a gobeithio bydd cyfle i wneud hynny eto ddydd Mawrth.
"Bydd hi'n anodd gadael y cyfan i fynd.
"Mae'n debyg y bydd fy merch yn cerdded allan gyda fi (cyn gêm Macedonia) ond bydd yn taro fi fwy wedyn ... pan fydda' i'n gwylio'r tîm."
Gêm gyntaf
Chwaraeodd Bellamy ei gêm gyntaf dros Gymru ar Fawrth 25 1998 pan oedd yn eilydd mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Jamaica.
Sgoriodd ei gôl gyntaf yn ei gêm nesaf, buddugoliaeth o 3-0 yn erbyn Malta ym mis Mehefin yr un flwyddyn.
Hyd yn hyn mae wedi sgorio 19 gôl dros Gymru, gydag un o'r enwocaf ym mis Hydref 2002 yn erbyn yr Eidal.
Llwyddodd Bellamy i fynd heibio'r golwr Gianluigi Buffon i rwydo a sicrhau buddugoliaeth o 2-1 i Gymru yn Stadiwm y Mileniwm.
Mae Bellamy yn bumed ar restr sgorwyr Cymru, tu ôl i rai o oreuon y wlad, Ian Rush, Trevor Ford, Ivor Allchurch a Dean Saunders.
Gyrfa broffesiynol
Dechreuodd ei yrfa broffesiynol yn Norwich pan wnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Arsenal yn 1997.
Sgoriodd 13 gôl y tymor hwnnw, gan sefydlu ei hun fel un o chwaraewyr pwysicaf y clwb.
Wedi cyfnod byr yn Coventry, lle cafodd nifer o anafiadau, symudodd i Newcastle, lle oedd partneriaeth gydag un o oreuon y Magpies, Alan Shearer.
Enillodd wobr Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn yn 2001 cyn ennill tlws y Scottish Cup gyda Celtic yn 2005.
Cafodd hefyd gyfnodau yn Blackburn Rovers, Lerpwl a Manchester City, lle chwaraeodd dan reolaeth cyn chwaraewr Cymru, Mark Hughes.
Yn 2010 aeth Bellamy yn ôl i'w glwb cartref, gan symud i Gaerdydd ar fenthyciad cyn ymuno ar gytundeb parhaol yn 2012.
Roedd Bellamy yn rhan ganolog o lwyddiant y clwb i gyrraedd yr Uwch Gynghrair am y tro cyntaf yn eu hanes y tymor hwnnw.
Bydd Cymru yn chwarae Macedonia yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar Hydref 11 am 7.45yh ac yna Gwlad Belg yn Stadiwm Brenin Baudouin ym Mrwsel ar Hydref 15, y gêm yn dechrau am 8yh.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2012