Bellamy yw capten Cymru

  • Cyhoeddwyd
Craig BellamyFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Craig Bellamy yn arwain ei wlad am y tro cynta ers i Gymru golli i Montenegro

Craig Bellamy yw capten Tîm Pêl-droed Cymru yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Costa Rica nos Fercher.

Bydd Bellamy, cyfaill agos Gary Speed fu farw ym mis Tachwedd, yn arwain ei wlad am y tro cyntaf ers i Gymru golli i Montenegro ym Medi 2010.

Ni fydd gôlgeidwad Wolverhampton Wanderers, Wayne Nennessey, yn chwarae nos Fercher am ei fod yntau wedi anafu ei ffêr.

Mae 'na amheuaeth hefyd am gôlgeidwad Birmingham, Boaz Myhill, ac o ganlyniad mae gôlgeidwad Aberdeen, Jason Brown, wedi ymuno â'r garfan.

Ymddeoliad?

Hwn fydd 68fed cap Bellamy nos Fercher ac o bosib ei ymddangosiad olaf ar y llwyfan rhyngwladol.

Mae'r dyn 32 oed o Gaerdydd wedi dweud ei fod yn ystyried ymddeol o'r gêm ryngwladol er bod Coleman wedi trafod ymestyn ei gyfnod hyd ddiwedd rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014.

Mae Bellamy wedi sgorio 19 o goliau dros Gymru a dim ond pedwar chwaraewr arall sydd wedi sgorio mwy dros eu gwlad, Ian Rush (28), Trevor Ford (23), Ivor Allchurch (23) a Dean Saunders (22).

Y gêm yn erbyn Costa Rica fydd y gyntaf i Chris Coleman fel rheolwr er mai Osian Roberts fydd yng ngofal y tîm nos Fercher.

Fe fydd Cymru hefyd yn chwarae gêm gyfeillgar yn erbyn Mecsico yn Efrog Newydd ar Fai 27 ac yng Nghymru yn erbyn Bosnia-Herzegovina ar Awst 15 cyn y gemau rhagbrofol.

Carfan Cymru ar gyfer Gêm Goffa Gary Speed yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fercher Chwefror 29, am 7.45pm:

Jason Brown (Aberdeen), Boaz Myhill (West Bromwich Albion ond ar fenthyg gyda Birmingham), Lewis Price (Crystal Palace), Darcy Blake (Caerdydd), James Collins (Aston Villa), Danny Gabbidon (Queens Park Rangers), Chris Gunter (Nottingham Forest), Adam Matthews (Celtic), Sam Ricketts (Bolton Wanderers), Neil Taylor (Abertawe), Ashley Williams (Abertawe), Joe Allen (Abertawe), Gareth Bale (Tottenham Hotspur), Jack Collison (West Ham United), Andrew Crofts (Norwich), David Edwards (Wolverhampton Wanderers), Joe Ledley (Celtic), Hal Robson-Kanu (Reading), David Vaughan (Sunderland), Craig Bellamy (Lerpwl), Robert Earnshaw (Caerdydd), Steve Morison (Norwich), Sam Vokes (Wolverhampton Wanderers ond ar fenthyg gyda Brighton & Hove Albion).

Wrth gefn: Danny Collins (Stoke City ond ar fenthyg gyda Ipswich), Neal Eardley (Blackpool), Adam Henley (Blackburn), Craig Morgan (Preston), Ashley Richards (Abertawe), Rhoys Wiggins (Charlton Athletic), David Cotterill (Barnsley), Andy Dorman (Crystal Palace ond ar fenthyg gyda Bristol Rovers), Brian Stock (Doncaster), Jermaine Easter (Crystal Palace), Ched Evans (Sheffield United).

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol