Gohirio triniaeth oherwydd diffyg staff yn Ysbyty Bronglais
- Cyhoeddwyd
Mae rhai llawdriniaethau yn ysbyty mwyaf y canolbarth yn cael eu gohirio am hyd at fis oherwydd diffyg staff.
Bydd yr oedi yn effeithio ar Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth a dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda eu bod yn bwriadu cael gwared ar chwech o welyau oherwydd diffyg staff.
Dywedodd y bwrdd fod cleifion wedi cael gwybod ond y byddai triniaeth canser yn flaenoriaeth o hyd.
Roedd y gohirio am resymau diogelwch, yn ôl y bwrdd.
Gohirio eto
Cafodd llawdriniaethau ym Mronglais eu hatal am fis yn 2012 oherwydd diffyg gwelyau ac mae'r ysbyty wedi codi pryderon am ddiffyg staff yn y gorffennol.
Roedd pryder hefyd y byddai gwelyau mewn adrannau gofal dwys a gofal cleifion canser ym mis Ebrill eleni.
Dywedodd y bwrdd iechyd: "Oherwydd diffyg staff sylweddol ac er mwyn sicrhau diogelwch cleifion, mae Ysbyty Bronglais yn lleihau'r nifer o lawdriniaethau dros y mis nesaf a dim ond y nifer o welyau lle mae'r safon briodol o ofal fydd ar gael.
"Ni fydd y bwrdd iechyd yn tanseilio diogelwch nac yn caniatáu lefelau o staffio allai fod yn anniogel.
"Nid yw'r penderfyniad wedi ei gymryd heb ystyriaeth ond mae angen gweithredu i sicrhau lefelau staffio diogel."
Ni fydd chwech o welyau yn ward Ceredig yn cael eu defnyddio.
'Cleifion yn dioddef'
Mae AC Plaid Cymru dros Geredigion, Elin Jones, wedi beirniadu'r penderfyniad.
"Un ai mae'r bwrdd iechyd yn brin iawn o arian neu yn arbennig o aneffeithlon mewn cynllunio'r gweithlu," meddai.
"Beth bynnag, nid cleifion Ceredigion ddylai ddioddef.
"Byddaf yn disgwyl i'r bwrdd iechyd ailosod y nifer llawn o welyau ar ward Ceredig o fewn y mis.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid ychwanegol i fyrddau iechyd yr wythnos diwethaf."
Dywedodd y bwrdd iechyd na fyddai'r penderfyniad yn effeithio ar ysbytai eraill.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2013