Cyhuddo dyn, 18, o lofruddio merch, 17, yng Nghefn Fforest

Cafodd yr heddlu eu galw i Wheatley Place yn ardal Cefn Fforest yn y Coed-duon fore Iau
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o lofruddio merch 17 oed a cheisio llofruddio menyw arall.
Fe gafodd Cameron Cheng, 18, o Drecelyn, Sir Caerffili, ei gyhuddo hefyd o fod â llafn yn ei feddiant ac mi fydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd ddydd Llun.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar Wheatley Place yn ardal Cefn Fforest yn y Coed-duon tua 07:15 fore Iau, yn dilyn adroddiadau bod dau berson wedi cael eu hanafu'n ddifrifol.
Cafodd Lainie Williams, 17 oed, o Gefn Fforest, ei chyhoeddi'n farw yn y fan a'r lle.
Mae menyw 38 oed arall, a gafodd anafiadau hefyd, wedi cael ei rhyddhau o'r ysbyty.
Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gwent, Vicki Townsend: "Er ein bod wedi cyrraedd y datblygiad arwyddocaol hwn yn yr ymchwiliad, mae ein hymholiadau'n parhau."
Maen nhw'n annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.