Cynghorau 'ddim yn barod am doriadau'
- Cyhoeddwyd
Nid yw cynghorau'n barod am faint y toriadau maen nhw yn eu hwynebu, yn ôl y corff sy'n eu cynrychioli.
Mae'r rhybudd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) cyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol gyhoeddi faint yn union y bydd pob cyngor yn ei dderbyn.
Yr wythnos ddiwethaf cyhoeddodd y llywodraeth y byddai'r arian mae awdurdodau lleol yn ei dderbyn ar gyfer 2014-15 £182 miliwn yn llai na'r flwyddyn bresennol.
Roedd hyn oherwydd penderfyniad i wario mwy ar iechyd dros y blynyddoedd sydd i ddod.
Toriadau
Bydd yr arian sydd yn cael ei wario ar lywodraeth leol yn gostwng o £4.648 biliwn eleni i £4.466 biliwn y flwyddyn nesaf - toriad o 3.91%.
Ond mae'r toriad hwn yn cyfateb i doriad o 5.81% o gofio effeithiau chwyddiant.
Golyga hyn y bydd cyllidebau cynghorau 9% yn llai mewn termau real rhwng nawr a 2015-16.
Bydd y gweinidog Lesley Griffiths yn cyhoeddi cyllideb pob awdurdod lleol brynhawn Mercher.
Mae un cyngor wedi dweud bod cau llyfrgelloedd a chanolfannau dydd yn bosib'.
£56m
Ddydd Llun cyhoeddodd Rhondda Cynon Taf eu cynlluniau ar gyfer sut maen nhw'n bwriadu arbed £56m dros y pedair blwyddyn nesaf.
Mae'r rhain yn cynnwys dechrau addysg llawn amser plant flwyddyn yn hwyrach.
Mae cyngor arall wedi rhybuddio bod y toriadau'n golygu bod "cannoedd o swyddi yn y fantol".
Yn eu hadroddiad i Bwyllgor Cyllid y Cynulliad mae CLlLC yn dweud: "Er bod llywodraeth leol yn ymwybodol o'r sefyllfa mewn cysylltiad â chyllideb Llywodraeth Cymru, y tebygolrwydd yw nad yw'n barod am y toriadau digynsail ar gyllidebau lleol fydd yn digwydd yn 2014-15."
Dywedodd y mudiad fod maint y toriadau yn fwy na'r hyn roedd cynghorau wedi cynllunio ar eu cyfer.
Mae awduron yr adroddiad yn trafod ei gynnwys ym Mhwyllgor Cyllid y Cynulliad ddydd Iau.
'Anghyfrifol'
Ar y Post Cyntaf ddydd Mercher dywedodd arweinydd Cyngor Gwynedd ac aelod o'r Gymdeithas Llywodraeth Leol, Dyfed Edwards, fod rhai cynghorau wedi cynllunio yn well nac eraill.
"Yr unig beth y galla' ei dybio ydi bod cynghorau wedi dal allan hyd y diwedd rhag ofn bod 'na newid gan y gweinidog, ond mae hynny wedi bod yn ofer, yn amlwg," meddai.
Dywedodd bod Cyngor Gwynedd wedi bod yn cynllunio ar gyfer y toriadau ers peth amser ac wedi bod yn ystyried eu cyllidebau yn nhermau tair blynedd ar y tro, ond nad oedd yn credu i bob cyngor gynllunio mor fanwl.
"Fyddwn i ddim yn argymell y ffordd yna o weithredu, ond mae hi i fyny i bawb yn lleol i benderfynu sut maen nhw'n gweld pethau.
"Dyna pam rydym ni yng Ngwynedd wedi bod yn cynllunio ers rhai blynyddoedd ac wedi cael rhaglenni yn eu lle i sicrhau ein bod ni'n ceisio bod yn ddoeth a gweithredu mewn ffordd ragweithiol."
Ddim yn ddigon
Er y gallai trethi cyngor godi oherwydd y toriadau, meddai, ni fyddai hynny'n ddigon i ddatrys y broblem.
"Mae 'na rai cynghorau wedi glynu at 0% o godiad treth cyngor flwyddyn neu ddwy yn ôl ... roedden ni ar y pryd wedi galw hynny'n anghyfrifol.
"Y broblem gyda'r dreth yw nad ydy hi'n mynd i ddod â ni allan o'r picl.
"Fe all gyfrannu ... fel rhan o becyn, a rhaid pwyso a mesur wedyn ynglŷn â throsglwyddo baich i'r trethdalwr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd26 Medi 2013