Gwobr gerdd i Georgia Ruth
- Cyhoeddwyd
Albwm cynta' Georgia Ruth, Week of Pines, sy' wedi ennill y Wobr Gerddoriaeth Gymreig.
Daw'r gantores 24 oed o Aberystwyth ac mae'r albwm yn cynnwys caneuon Saesneg a Chymraeg.
Recordiau Gwymon ryddhaodd yr albwm ym Mai.
Roedd y seremoni wobrwyo yng Nghlwb Kuku yng Nghaerdydd.
Dywedodd Prif Weithredwr Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig a chydsylfaenydd y wobr John Rostron: "... mae'r wobr yn amserol iawn gan y bydd hi'n cymryd rhan yn Womex fydd yn cyrraedd Cymru yr wythnos nesa'."
Mae'r troellwr a chydsylfaenydd y wobr Huw Stephens wedi dweud: "Hi yw un o hoff artistiaid newydd Cymru oherwydd ei gwaith caled a'i dawn unigryw ...
"Mae ei buddugoliaeth yn haeddiannol iawn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd19 Awst 2013
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol