Gohirio streic diffoddwyr tân

  • Cyhoeddwyd
Injan Dan
Disgrifiad o’r llun,

Roedd diffoddwyr yn bwriadu streicio dros anghydfod pensiynau

Mae streic bum awr diffoddwyr tân yng Nghymru a Lloegr wedi ei gohirio.

Dywedodd yr undeb fod datblygiadau wrth drafod pensiynau wedi arwain at y penderfyniad i ohirio'r streic.

Mae Llywodraeth Prydain yn awyddus i weld diffoddwyr tân yn gweithio hyd at 60 oed ond mae'r undeb yn dweud bod hyn yn rhy hen.

Pensiwn llawn

Dywedodd Undeb y Frigad Dân eu bod wedi cael cynnig tebyg i'r un yn yr Alban, ateb posib' i'r pryderon am weithio rhwng 55 a 60 oed.

Byddai hyn yn golygu y bydd diffoddwyr sy'n methu parhau i weithio oherwydd diffyg ffitrwydd ac yn methu cael rôl arall yn derbyn pensiwn llawn.

Bydd aelod sy'n methu â chyrraedd lefelau ffitrwydd ac sy'n dewis ymddeol yn gynnar yn cael pensiwn llai.

Nid oes penderfyniad terfynol wedi ei gytuno gan fod angen i'r llywodraeth drafod y mater gydag awdurdodau unigol.