Elfyn Llwyd i sefyll i lawr

  • Cyhoeddwyd
Elfyn Llwyd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elfyn Llwyd wedi bod yn AS ers 21 o flynyddoedd

Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Elfyn Llwyd, wedi cyhoeddi y bydd yn sefyll i lawr o'i swydd fel AS Dwyfor Meirionnydd cyn etholiad cyffredinol 2015.

Mae Mr Llwyd wedi bod yn aelod seneddol am 21 o flynyddoedd, ers cael ei ethol i gynrychioli Meirionnydd Nant Conwy yn 1992.

Enillodd y sedd mewn pedwar etholiad yn olynol, cyn cael ei ethol i gynrychioli Dwyfor Meirionnydd yn 2010.

Mae Mr Llwyd wedi bod yn llais cryf yn yr ymgyrch dros hawliau cyn-filwyr, ac roedd yn aelod blaenllaw yn yr ymgyrch yn erbyn penderfyniad Tony Blair i fynd i ryfel yn Irac.

Dywedodd Mr Llwyd: "Rwyf wedi penderfynu peidio cynnig am yr enwebiad ar gyfer Etholiad Cyffredinol 2015.

"Rwy'n hynod ddiolchgar i bobl Dwyfor Meirionnydd a Nant Conwy am eu cefnogaeth a'u teyrngarwch dros y blynyddoedd.

"Mae hi wedi bod yn fraint cael gwasanaethu fy mhlaid, fy etholaeth a'm cenedl, ond mae'r amser wedi dod i droi fy ngolygon at waith arall ac olrhain diddordebau eraill sydd gennyf.

"Mae chwarae rhan mewn cyfnod mor gyffrous yn hanes Cymru a Phlaid Cymru wedi bod yn anrhydedd llwyr.

"Rwy'n gwbl hyderus y bydd y blaid yn mynd o nerth i nerth ac yn parhau i roi buddiannau pobl a chymunedau Cymru wrth galon pob penderfyniad."

Cafodd ei eni ym Metws y Coed yn 1951 cyn derbyn ei addysg yn Llanrwst a Phrifysgol Aberystwyth.

Cyn symud i fyd gwleidyddiaeth, cymhwysodd fel cyfreithiwr ac yna bargyfreithiwr yn 1997.