Land and Lakes: Galw am ymchwiliad i rôl cwmni

  • Cyhoeddwyd
Rali i gefnogi datblygiad Land and Lakes
Disgrifiad o’r llun,

Cynhaliwyd rali i gefnogi datblygiad Land and Lakes ddydd Gwener diwetha'

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg (CYIG) wedi gofyn am ymchwiliad ffurfiol i rôl Cymunedau'n Gyntaf Môn mewn cysylltiad â datblygiad tai gwyliau dadleuol yng ngogledd orllewin Cymru.

Mae'r honiadau yn ymwneud â rali a gynhaliwyd ddydd Gwener diwetha' i gefnogi datblygiad Land and Lakes ym Mharc Arfordir Penrhos yng Nghaergybi.

Cafodd y cais cynllunio ar gyfer y pentref gwyliau ei wrthod gan Gyngor Môn ddechrau'r mis.

Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Môn yn gwadu bod cwmni Cymunedau'n Gyntaf Môn wedi chwarae unrhyw rôl yn y rali.

Arian cyhoeddus

Ond mae CYIG wedi ysgrifennu llythyr at Brif Weithredwr Cyngor Môn, Richard Parry Jones, ynghyd â'r Gweinidog â chyfrifoldeb dros gymunedau a threchu tlodi yn Llywodraeth Cymru Jeff Cuthbert.

Maent yn cwestiynu gweithredoedd rhai o swyddogion Cymunedau'n Gyntaf, corff sy'n cael ei ariannu gan y cyngor, gan ddweud fod cydlynydd y corff wedi siarad o blaid y datblygiad yn y rali.

Dywedodd Osian Jones Trefnydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y gogledd: "Ymddengys, ar yr olwg gyntaf, bod Cymunedau'n Gyntaf wedi defnyddio eu hadnoddau i gynorthwyo'r brotest a chefnogi cais [Land & Lakes]. … Nid oeddem yn ymwybodol y byddai corff a ariennir gan y pwrs cyhoeddus yn cael defnyddio eu hadnoddau [yn y fath modd]...

"Mae hyn yn codi cwestiynau difrifol am gylch gorchwyl Cymunedau'n Gyntaf, a hoffem dderbyn eglurhad llawn ynghylch pa mor briodol fyddai sefyllfa lle mae corff sector gyhoeddus yn ymwneud â chais cynllunio dadleuol o'r fath.

"Credwn y byddai'n yn annoeth iawn, tasai corff a ariennir gan y Cyngor yn ymgyrchu o blaid datblygiad mor ddadleuol â hyn."

'Corff ar wahân'

Mewn ymateb i sylwadau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Môn: "Cafodd Cymunedau'n Gyntaf Môn ei sefydlu fel corff ar wahân i'r Cyngor, ac felly gyda'u Bwrdd Rheoli a'u rheolau gweithredol eu hunain. Mae staff yn cael eu cyflogi gan y Bwrdd ac nid gan y Cyngor.

"Rydym yn deall bod y swyddogion sydd wedi'u cyflogi gan Gymunedau'n Gyntaf wedi bod yn rhan o gyfarfod diweddar a'u bod wedi gwneud hynny fel trigolion yr ynys, ac nid fel cynrychiolwyr y cwmni."

'Gwarthus'

Mae'r cynghorydd John Chorlton, o Gyngor Tref Caergybi, yn cefnogi gweithwyr Cymunedau'n Gyntaf Môn, ac yn dweud fod safbwynt CYIG yn "warthus".

"Dwi'n gwbod ma' pres y Cynulliad sy'n cefnogi nhw ond ar ddiwedd y dydd ma' nhw yna i hybu gwaith, dyna ydy'i job nhw.

"Yn ôl be' dwi'n ddallt, doeddan nhw ddim yno'n cefnogi fel cwmni. Unigolion sy'n gweithio i'r cwmni oedd yno'n cefnogi a ma' gynnyn nhw berffaith hawl i wneud hynny - ma' nhw isho gweld y dre'n gwella."

Gofynnwyd i Gymunedau'n Gyntaf Môn am eu hymateb i sylwadau CYIG, ond fe wrthodon nhw wneud unrhyw sylw ar hyn o bryd, gan gyfeirio BBC Cymru at Lywodraeth Cymru, a ddywedodd:

"Rydym wedi cael gwybod bod yr unigolyn dan sylw yn siarad o safbwynt personol fel person lleol ac nad oedd yn cynrychioli Cymunedau'n Gyntaf Môn, oedd ddim ag unrhyw ran yn y digwyddiad."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol