Rali o blaid parc gwyliau ger Caergybi

  • Cyhoeddwyd
Rali CaergybiFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,

Roedd mwy na 100 yn y rali

Mae mwy na 100 wedi bod mewn rali yng Nghaergybi oedd yn cefnogi cynllun twristiaeth dadleuol ar gyrion y dre'.

Eisoes mae Cyngor Ynys Môn wedi gwrthod cynllun Land and Lakes i godi pentref gwyliau a channoedd o dai.

Roedd y cwmni datblygu am godi parc gyda thua 800 o gabanau ar dri safle. Y tri safle yw Penrhos, Cae Glas a Kingsland.

Y bleidlais oedd 5-2 gyda dau'n ymatal eu pleidlais.

Tachwedd 6

Fe fydd y cais gerbron cyfarfod y cyngor ar Dachwedd 6 gan fod y penderfyniad i wrthod y cais yn erbyn cyngor swyddogion cynllunio.

Yn y rali dywedodd y dyn busnes Gwyn Pritchard: "Mae angen rhywbeth oherwydd diweithdra uchel yn y dre'.

"Mae angen datblygiad yma ... ac mae angen i bawb gytuno."

Dywedodd dyn busnes arall Hywel Williams ei fod o blaid y cynlluniau.

"Mi fydd yn dod â swyddi ... mae llawer ohonyn nhw wedi eu colli'n lleol.

500 o fythynnod

"Os oes arian yn y boced, mi fydd yn cael ei wario."

Bwriad cwmni Land & Lakes oedd codi 500 o fythynnod ar dir oedd yn eiddo i gwmni Alwminiwm Môn ym Mharc Arfordir Penrhos.

Roedd y cwmni wedi dweud y gallai 300 o unedau llety ar safle Cae Glas gael eu defnyddio gan weithwyr sy'n adeiladu gorsaf bŵer niwclear Wylfa B, ac yna byddai 315 o gabanau pellach yn cael eu codi yno ynghyd â gwarchodfa natur.

Ar y cychwyn byddai gan safle Kingsland 360 o dai fyddai'n gartref i weithwyr adeiladu safle Cae Glas, ac yna byddai'r tai yn cael eu trosglwyddo i fod yn dai i bobl leol.

'Rhy fawr'

Ond roedd grŵp o ymgyrchwyr lleol yn erbyn y cynllun ar y sail ei fod yn rhy fawr i'r tir sydd ar gael.

Cafodd deiseb yn erbyn y cynllun ei harwyddo gan 1,200 o bobl tra bod deiseb arall gyda 800 o enwau wedi ei hanfon at Lywodraeth Cymru.

Daeth gwaith cynhyrchu alwminiwm ar y safle i ben yn 2009 a diflannodd 400 o swyddi.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol