Yr Arglwydd Morris: Mae angen mwy o ACau a diddymu Swyddfa Cymru

  • Cyhoeddwyd
Yr Arglwydd John Morris o Aberafan
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr Arglwydd John Morris yn traddodi ei ddarlith nos Wener

Mae cyn Ysgrifennydd Cymru, yr Arglwydd John Morris o Aberafan, yn credu bod angen mwy o ACau a diddymu swydd Ysgrifennydd Cymru nawr bod gan y Cynulliad bwerau deddfu.

Wrth draddodi darlith flynyddol yr Archif Wleidyddol Gymreig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru nos Wener, mae disgwyl i'r Arglwydd Morris ofyn beth y mae Ysgrifennydd Cymru, a'r ddau weinidog arall yn Swyddfa Cymru, yn ei wneud drwy'r dydd.

Bydd yn dweud bod angen cynyddu nifer yr ACau er mwyn craffu ar Lywodraeth Cymru oherwydd y pwerau ychwanegol ddaeth i Gymru yn sgil refferendwm 2011.

Llai o weinidogion

Mae'n cydnabod na fyddai cael mwy o wleidyddion yn boblogaidd, ac mae ei sylwadau am Swyddfa Cymru yn cael eu gwneud yng nghyd-destun y quid pro quo y mae'n dadlau byddai'n angenrheidiol pe bai yna gynnydd yn nifer yr ACau.

Bydd e hefyd yn dadlau y dylid cael llai o weinidogion o fewn Llywodraeth Cymru ac y dylai ACau dreulio mwy o amser ym Mae Caerdydd.

Yn ei farn o gallai'r newidiadau yma gyda'i gilydd olygu bod pobl Cymru'n barotach i dderbyn cynnydd yn nifer yr ACau i ddelio â'r cyd-destun deddfwriaethol presennol.

Datganoli darlledu

Mae disgwyl i'r Arglwydd Morris hefyd alw eto am ddatganoli darlledu, gan ddweud nad yw'n gweld sut y gall Llywodraeth Cymru gyflawni ei chyfrifoldebau dros y Gymraeg heb y pwerau hynny.

Bydd hefyd yn dweud y dylid datganoli pwerau dros yr heddlu gan bod cymaint o gydweithio rhyngddynt ag awdurdodau lleol a gwasanaethau cymdeithasol.

Traddodir y ddarlith yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ddydd Gwener Tachwedd 2013 am 5.30yh

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol