Cyflenwadau wedi'u hadfer

  • Cyhoeddwyd
A garage blew onto a house in Beddau near PontypriddFfynhonnell y llun, Sarah/Twitter
Disgrifiad o’r llun,

Chwythodd to garej ar ben y tŷ drws nesaf yn Beddau ger Pontypridd

Mae peirianwyr wedi llwyddo i ail gysylltu cyflenwadau trydan a gollwyd yn stormydd dydd Sadwrn ar draws Cymru.

Cafodd coed a gwifrau trydan eu dymchwel mewn gwyntoedd oedd yn hyrddio hyd at 89 m.y.a. gan adael 10,000 o gartrefi a busnesau heb drydan ar draws de a ogrllewin Cymru.

Roedd y broblem ar ei gwaethaf rhwng 3pm a 4pm ddydd Sadwrn ond mae tua 100 eiddo yn dal heb gyflenwad fore Sul.

Dywedodd cwmni Western Power Distribution bod pawb wedi cael eu cyflenwad yn ôl erbyn canol prynhawn Sul.

Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru bod naw rhybudd llifogydd y dal mewn grym ar hyd arfordir Cymru.

Ymhlith y trafferthion eraill achoswyd ddydd Sadwrn oedd :

  • Yr M4 ar gau i'r ddau gyfeiriad am ddwy awr rhwng Margam a'r Pîl wedi i garafàn droi drosodd;

  • Coeden yn disgyn ar ben car ym Mhen-y-bont, ond yn ffodus ni chafodd y gyrrwr ei anafu;

  • To'n cael ei chwythu oddi ar garej ar ben y tŷ drws nesaf yn Beddau ger Pontypridd;

  • Coed wedi'u dymchwel ym Mhen-y-bont, Caerdydd, Llanelli, Abertawe, Penfre ac Glan-bâd.

Mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru yn monitro lefel y môr, gwyntoedd a thonnau gan boeni y gallai'r rhain arwain am rhybuddion pellach yn ystod y dydd.

Fore Sul roedd naw rhybudd yn weithredol, sef Llanddulas, Borth, Bae Clarach, Aberystwyth, Niwgwl, Dale, Penclawdd, Newton a Phorthcawl a'r Bermo.

Am y manylion diweddaraf am y rhybuddion, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn annog pobl i fynd i'w gwefan, dolen allanol neu i ffonio'r llinell gymorth llifogydd ar 0845 988 1188.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol