Difrodi Pont Briwet yn effeithio ar drenau
- Cyhoeddwyd

Dywedodd llefarydd ar ran Trenau Arriva Cymru fod peirianwyr yn asesu'r sefyllfa.
Mae difrod ar bont yn amharu ar wasanaeth trenau rhwng Penrhyndeudraeth a Llandecwyn.
Dywedodd llefarydd ar ran Trenau Arriva Cymru: "Am resymau diogelwch ni all trenau groesi Pont Briwet oherwydd difrod."
Roedd peirianwyr yn asesu'r sefyllfa, meddai.
Mae gwasanaeth bysus ar gael rhwng Harlech a Phwllheli a'r manylion ar y wefan ganlynol. , dolen allanol