TUC: Byddai cyflog byw yn arbed £154m

  • Cyhoeddwyd
Arian
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyflog byw £1.14 yn uwch na'r isafswm cyflog ar gyfer pobl dros 21

Byddai llywodraeth y DU yn arbed £154 miliwn petai pob gweithiwr yng Nghymru'n derbyn y cyflog byw, yn ôl Cyngres yr Undebau Llafur (TUC).

Maen nhw'n dweud y byddai'r arian yn cael arbed drwy'r gostyngiad mewn faint sy'n cael ei wario ar fudd-daliadau a'r arian ychwanegol byddai'r Trysorlys yn ei dderbyn mewn trethi.

Os byddai holl weithwyr y DU yn derbyn yr arian yna byddai'r llywodraeth yn arbed £3.2 biliwn, yn ôl y TUC.

Mae'r BBC wedi gofyn i'r Trysorlys am ymateb.

Safon byw

Mae'r Cyflog Byw yn cael ei hybu gan y Sefydliad Cyflog Byw ac mae'n galw am i weithwyr dderbyn yr isafswm cyflog maen nhw ei angen er mwyn gallu talu am safon byw sylfaenol.

Disgrifiad o’r llun,

Dyw Iestyn Davies ddim yn credu y byddai cyflog byw yn cael yr effaith mae'r TUC yn gredu

Ar hyn o bryd mae wedi ei osod ar £7.45 yr awr ar gyfer ardaloedd heblaw Llundain.

Mae'n dipyn uwch na'r isafswm cyflog cyfreithiol sy'n £6.31 ar awr ar gyfer oedolion a £5.03 ar gyfer pobl rhwng 18 a 21.

Ond mae Iestyn Davies o Ffederasiwn y Busnesau Bach Cymru yn honni na fyddai llawer o fusnesau yn gallu talu "cyflog sydd 30% yn uwch na'r isafswm presennol".

'Pell o fod yn wir'

Dywedodd: "Yn anffodus mae awgrym y TUC y byddai'r Trysorlys yn arbed £154m petai pob cyflogwr yn talu'r isafswm cyflog yng Nghymru'n bell o fod yn wir.

"Dyw hyn ddim yn ystyried y ffaith na fyddai gan lawer o fusnesau ddewis ond torri oriau staff er mwyn cydbwyso'r llyfrau."

Yn siarad ar ran Llywodraeth Cymru, dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol Lesley Griffiths:

"Wrth ddangos ein hymrwymiad i bob gweithiwr yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi'r syniad o gyflog byw fel ffordd o fynd i'r afael a rhai o'r materion sydd yn gysylltiedig â thal isel a thlodi incwm."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol