Streic diffoddwyr tân wedi dod i ben

  • Cyhoeddwyd
Firefighters attending a union rallyFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae diffoddwyr tân yn dweud bod gweithio tan eu bod nhw yn 60 yn rhy hen

Mae pedwaredd streic y diffoddwyr tân wedi dod i ben heb drafferthion mawr.

Ond mae'n bosib y bydd yna weithredu pellach yn y dyfodol.

Roedden nhw yn streicio am gyfnod o bedair awr ddydd Mercher am ei bod yn anfodlon efo newidiadau i'w pensiynau.

Dydyn nhw chwaith ddim yn hapus efo bwriad Llywodraeth San Steffan i newid yr oed ymddeol i 60.

Mae Simon Smith, prif swyddog Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn dweud eu bod nhw wedi llwyddo i ymdopi ac ateb galwadau yn ystod y streic.

Ond mae'n rhybuddio y gallen nhw weithredu eto : "Er bod y streic yma wedi dod i ben, dyw hi ddim yn glir eto os y bydd yna weithredu pellach gan ddiffoddwyr tan. Felly mi fydden i yn atgoffa pobl i fod yn ddiogel ar y ffyrdd ac i geisio osgoi tannau."

Aelodau undeb y frigâd dân - yr FBU - yng Nghymru a Lloegr sydd wedi bod yn streicio. Dyw gweithwyr tân yn yr Alban ddim wedi gweithredu tra bod trafodaethau yn parhau.

Ymddeol yn hwyrach

Maen nhw wedi dweud y bydd yna bleidlais arall yn cael ei chynnal er mwyn ystyried ffyrdd eraill o wrthwynebu'r newidiadau.

Dadl rhwng y llywodraeth a'r undeb sydd wedi arwain at y streiciau diweddar.

Mae'r llywodraeth eisiau newid yr oed ymddeol i 60.

Ond fydd diffoddwyr tân ddim yn gallu parhau i weithio tan yr oed yna meddai'r undeb am y bydd ei lefel ffitrwydd nhw wedi dirywio.

Mae'r undeb yn poeni y bydd gweithwyr yn eu 50au yn colli eu gwaith am na fyddan nhw'n pasio'r prawf ffitrwydd.

Cynllun pensiwn hael

Dydyn nhw chwaith ddim yn hapus bod y llywodraeth yn gofyn iddyn nhw gyfrannu mwy at eu pensiwn.

Ond yn ôl Llywodraeth San Steffan mae diffoddwyr tân wedi cael cynnig yr un mesurau ffitrwydd a'r rhai sydd wedi eu derbyn gan yr FBU yn yr Alban.

Maen nhw hefyd yn mynnu bod y cynllun pensiwn i'r gwasanaeth tân yn un o'r cynlluniau gorau sydd yn cael eu cynnig i weithwyr yn y sector gyhoeddus.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol