Ysbytai: Mwy yn aros dros 9 mis

  • Cyhoeddwyd
Surgical instrumentsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ym mis Medi mi oedd na dros 11,000 o bobl yn disgwyl i gael triniaeth mewn ysbytai yng Nghymru

Mae nifer y bobl sy'n aros dros naw mis i gael triniaeth mewn ysbytai yng Nghymru wedi dyblu yn y chwe mis diwethaf yn ôl ffigyrau diweddar.

Rhwng mis Mawrth a Medi mae'r ffigyrau wedi codi o 5,414 i 11,672, er bod cwymp bychan wedi bod yn y ffigwr dros y mis diwethaf.

Targed Llywodraeth Cymru yw y dylai 95% o gleifion gael eu trin o fewn 26 wythnos. Ond mae'r data yma yn dangos mai dim ond 88.4% o bobol ar draws Cymru gafodd driniaeth yn y cyfnod yma.

Er hynny, roedd 1,475 (11%) yn llai o bobl wedi gorfod aros am 36 wythnos neu fwy ym mis Medi o'i gymharu â mis Awst.

Betsi Cadwaldr, Cwm Taf a Chaerdydd a'r Fro yw'r byrddau iechyd sydd efo'r amseroedd aros gwaethaf.

'Argyfwng'

Y bwrdd iechyd sydd yn perfformio orau yw Powys ond dim ond nifer fach o bobl mae'r ysbyty yn trin a does dim un ysbyty mawr yn yr ardal.

Mae'r gwrthbleidiau wedi dweud bod yr amseroedd aros yn achos o "argyfwng". Yn ôl llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, Darren Millar mae'r sefyllfa yn siŵr o waethygu:

"Mae'r toriadau gan y blaid Lafur yn golygu bod y gwasanaethau rheng flaen ar eu gliniau.

"Mae'n rhaid i Carwyn Jones a'i lywodraeth Lafur flaenoriaethu arian i'r gwasanaeth iechyd, creu cynllun i daclo pwysau yn ystod misoedd y gaeaf a gwarantu y bydd yna welliant cyflym yn y rhestrau aros."

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Elin Jones AC:

"Dyma set arall o ffigyrau rhestrau aros gwael i'r GIG yng Nghymru.

"Mae'n ymddangos nad oes wythnos yn mynd heibio heb fwy o newyddion drwg am berfformiad y GIG.

"Mae nifer y bobl sy'n aros dros 36 wythnos am driniaeth yn deirgwaith a hanner y ffigwr flwyddyn yn ôl, ac mae 13,000 yn fwy o bobl yn aros am fwy na 26 wythnos nag oedd yna flwyddyn yn ôl.

"Yn syml nid yw hyn yn ddigon da, ac yn awgrymu nad yw'r Gweinidog Iechyd yn mynd i'r afael â'r GIG.

"Yr hyn sy'n fwyaf brawychus yw bod y sefyllfa'n debyg o waethygu dros fisoedd y gaeaf wrth i'r pwysau ar y GIG gynyddu.

"Mae Plaid Cymru wedi cynnig ystod o fesurau i wella'r modd y mae'r GIG yn gweithredu a'i wneud yn fwy atebol i'r Cynulliad Cenedlaethol, ond mae'n siomedig nad yw Llywodraeth Cymru'n dangos yr un fenter."

Gwelliant yn digwydd

Ond yn yr adroddiad blynyddol a gafodd ei gyhoeddi fis diwethaf, mi ddywedodd Prif Weithredwr Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru, David Sissling, bod yna fwy o bobl wedi bod angen gofal yn y gaeaf a'r gwanwyn. Roedd o yn awgrymu mai canlyniad hyn oedd bod yna fwy o oedi o ran llawdriniaethau.

Roedd o'n dadlau bod yna welliannau yn digwydd.

"Calonogol" yw'r lleihad yn y nifer sydd yn aros dros 36 wythnos i gael eu trin meddai Llywodraeth Cymru.

Er bod yna gynnydd wedi bod yn y nifer o bobl sydd yn aros i gael eu trin o fewn 26 wythnos maen nhw'n dweud bod "mwyafrif o gleifion yn cael eu gweld yn y cyfnod yma".