45 o geffylau yn gorfod cael eu difa
- Cyhoeddwyd
Mae 45 o geffylau wedi gorfod cael eu rhoi i lawr ar safle ym Mro Morgannwg oherwydd eu bod yn dioddef.
Cafodd cyfanswm o ryw 200 eu hasesu gan aelodau o'r RSPCA, y cyngor sir a'r elusen ceffylau Redwings yn ddiweddar.
Daeth milfeddygon yr RSPCA i'r casgliad bod rhaid lladd bron chwarter ohonynt gan eu bod yn dioddef cymaint.
Mae nifer o geffylau eraill yn derbyn triniaeth ac mae'r RSPCA yn parhau i ymchwilio
Dywedodd yr elusen: "Er bod y ceffylau ym Mro Morgannwg yn cael eu cadw ar dir preifat rydym yn croesawu gwaith Llywodraeth Cymru ar y mater o bori anghyfreithlon a cheffylau sy'n cael eu gadael ac yn gobeithio y bydd San Steffan yn dilyn eu hesiampl fel bod deddfwriaeth fwy effeithlon yn cael ei gyflwyno yn Lloegr yn ogystal â Chymru."
Mae deddf newydd Llywodraeth Cymru wedi ei lunio er mwyn rhoi'r pŵer i awdurdodau lleol weithredu pan mae achosion o bori anghyfreithlon yn cael eu darganfod.