Hywel Francis AS Aberafan yn sefyll i lawr yn 2015

  • Cyhoeddwyd
Hywle Francis AS
Disgrifiad o’r llun,

Hywel Francis AS

Mae Aelod Seneddol Aberafan, Dr Hywel Francis, wedi cyhoeddi y bydd yn sefyll i lawr pan ddaw'r etholiad nesaf yn 2015.

Cafodd y cyn athro Addysg Gydol Oes ym Mhrifysgol Abertawe ei ethol i San Steffan yn 2001.

Dywedodd Dr Francis, 67 : "Anrhydedd anferthol ydi cael gweithio ar ran yr etholwyr yn Aberafan.

"Ers 2001, mae yna nifer fawr o sialensiau wedi ein hwynebu, a dim yn fwy na heddiw pan wynebwn raglen lymder y llywodraeth glymblaid.

"Hoffwn ddiolch i'r etholwyr, fy nheulu, staff, a'r blaid Lafur am eu cefnogaeth."

Gweithio'n galed

Meddai ysgrifennydd Llafur yr etholaeth, Anthony Taylor: "Mae Hywel wedi bod yn hyrwyddwr grymus ac angerddol dros Aberafan ers ei ethol yn 2001

"Gweithiodd yn galed dros filoedd o etholwyr a channoedd o sefydliadau lleol.

"Roedd yn ymgyrchwr ar nifer o faterion gan gynnwys hawliau gofalwyr.

"Hoffwn ddiolch iddo am bob dim dros y 12 mlynedd diwethaf, ac edrychwn ymlaen at gydweithio gydag ef i fyny at 2015.

Ar hyn o bryd yn San Steffan, mae Dr Francis AS, yn cadeirio Pwyllgor ar Hawliau Dynol yn ogystal â dau grŵp trawsbleidiol ar Hanes ac Archifau a Syndrom Down's.

Bu hefyd yn gadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, gan feithrin cysylltiadau agosach gyda'r Cynulliad.