Cymru yn disgwyl canlyniadau Pisa yn ddiweddarach
- Cyhoeddwyd
Mi fydd canlyniadau profion Pisa yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach.
Mae'r profion yn mesur safonau mathemateg, gwyddoniaeth a sgiliau darllen disgyblion 15 oed.
Mae'r Gweinidog Addysg, Huw Lewis, eisoes wedi rhybuddio nad yw'n disgwyl i Gymru wneud llawer yn well nag y gwnaeth y tro diwethaf.
Yn 2010 dywedodd y Gweinidog Addysg ar y pryd, Leighton Andrews, fod y canlyniadau yn "ddychrynllyd".
Mae 500,000 o bobl ifanc yn gwneud y profion mewn tua 70 o wledydd ar draws y byd.
Bedair blynedd yn ôl roedd Cymru yn y 40fed safle mewn mathemateg, 38ain mewn darllen a 30ain yn y maes gwyddoniaeth.
Roedd y canlyniadau yn waeth na'r hyn oedden nhw yn 2007 ac yn dangos bod Cymru ar ei hôl hi o'i gymharu â gwledydd eraill Prydain.
Fe gyflwynwyd nifer o newidiadau yn sgil y canlyniadau.
Nawr mae plant 7 oed yn cael eu profi ac mae system fandio wedi ei chyflwyno sydd yn mesur perfformiad ysgolion.
Mae yna fframwaith newydd hefyd i athrawon ei ddilyn yn y dosbarth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2013
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2013
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2013