Cyngor Conwy yn trafod dyfodol pier Bae Colwyn
- Cyhoeddwyd
Mi fydd Cyngor Conwy yn trafod dyfodol pier hanesyddol Fictoria ym Mae Colwyn ddydd Iau ac mae chwalu'r adeilad yn un opsiwn.
Ar hyn o bryd mae Cyngor Conwy yn gwario £53,000 pob blwyddyn ar gynnal a chadw'r strwythur a adeiladwyd yn 1900.
Ers 2008, mae'r cyngor wedi bod yn gofalu am y pier 750 troedfedd o hyd, wedi i'r perchennog Steven Hunt fynd yn fethdalwr.
Mae'r cyngor a Mr Hunt yn dal i ddadlau dros bwy sy'n berchen ar y pier a bydd yr achos hwnnw yn mynd i'r llys yn y dyfodol.
Angen £15m
Yn ôl y cyngor, mae angen £15m i adnewyddu'r pier.
Mae ganddynt gais am grant o £4.37m o Gronfa Dreftadaeth y Loteri ond hyd yn oed petai'n llwyddiannus mi fyddai'n dal angen dod o hyd i £11m pellach.
Yn yr adroddiad sy'n mynd o flaen y cynghorwyr, mae'n nodi y byddai'n costio £986,700 i ddymchwel y strwythur.
Cwestiwn perchnogaeth
Yn nhyb Mr Hunt does gan y Cyngor ddim hawl gwneud penderfyniadau ar yr adeilad ar hyn o bryd.
Meddai: "Mae hyn yn fisâr, nid y Cyngor sy'n berchen ar y pier.
"Mi fydd achos perchnogaeth y pier yn cael ei drafod eto, fe wnes i guro apêl yn erbyn rhesymau gwrthod fy mherchnogaeth.
"Ar y gorau, be sydd gan y Cyngor ydi opsiwn ar y pier, mae'r dadlau yn dal i fynd yn ei flaen, allan nhw ddim gwneud dim byd tan ma' hynny wedi ei setlo."
Ymatebodd llefarydd ar ran Cyngor Conwy: "Ers Mawrth 27, 2012 y cyngor sy'n berchen ar rydd-ddaliad y pier.
"Mae hyn wedi cael ei herio yn Yr Uchel Lys gan Steven a Gloria Hunt, gwrthodwyd eu cais gan Llys Sirol Caerdydd ond maent wedi cael yr hawl i apelio yn erbyn y dyfarniad yn Yr Uchel Lys.
"Mae dau rhan wedi dychwelyd i'r llys sirol yng Nghaerdydd i'w barnu eto.
"Does yna ddim dyddiad ar gyfer hyn eto."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mai 2013
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2012