Buddsoddi £10m ym Maes Awyr Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu buddsoddi £10m er mwyn gwella cyfleusterau ym Maes Awyr Caerdydd.
Bydd y benthyciad yn cael ei ad-dalu dros y 12 mlynedd nesaf ac mae'n rhan o'r gyllideb ar gyfer 2014/15 gafodd ei basio yn y cynulliad pnawn dydd Mawrth.
Mae'r llywodraeth yn dweud bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i wella'r profiad ar gyfer teithwyr gan gynnwys cyfleuster bwcio tacsi newydd, gwell mynediad i nôl a gollwng teithwyr ac ardal ddiogelwch newydd.
Bydd y gwaith yn dechrau cyn yr haf flwyddyn nesaf.
Mi brynodd Llywodraeth Cymru y maes awyr ym mis Mawrth am £52m a hynny ar ôl i'r niferoedd oedd yn defnyddio'r maes awyr leihau.
Dwy filiwn o bobl oedd wedi trwy'r drysau yn 2007 ond roedd y ffigwr hynny wedi haneru erbyn 2012.
Pan yr aethon nhw ati i'w brynu mi ddywedodd y prif weinidog y byddai'r maes awyr yn cael ei redeg ar sail fasnachol gan gwmni ar ran y llywodraeth. Dywedodd ei fod eisiau i'r lle allu cystadlu gyda meysydd awyr eraill ac y byddai yn allweddol i ddatblygu'r economi.
Gwella cyfleusterau
Ac mewn cynhadledd i'r wasg wythnos yma dywedodd Carwyn Jones fod gwerth y lle wedi codi rhyw £3m ers diwedd Mawrth.
Yn ôl y Gweinidog sydd gyda chyfrifoldeb am yr economi a thrafnidiaeth, Edwina Hart mae'r maes awyr wedi gwneud cynnydd yn nifer yr awyrenau a lleoliadau y mae modd hedfan iddynt yn ddiweddar.
"Bydd yr arian newydd yma yn gwella eto y cyfleusterau yn y maes awyr ac yn gwneud yn siwr bod y cyfleusterau ar gyfer teithwyr yn cyrraedd y safon ar gyfer y 21ain ganrif," meddai.
Dywedodd hefyd bod y newidiadau gan gynnwys bws gwennol newydd yn rhan o weledigaeth y llywodraeth er mwyn gwneud y maes awyr yn un y gallai "Cymru fod yn falch ohoni".
Mae'r Ceidwadwyr wedi bod yn feirniadol o benderfyniad y llywodraeth i brynu'r maes awyr gan ddweud y dylai'r arian fod wedi ei wario ar feysydd eraill fel y gwasanaeth iechyd.
Ac mae llefarydd trafnidiaeth y Democratiaid Rhyddfrydol, Eluned Parrott yn galw ar y llywodraeth i gyhoeddi ei strategaeth ar gyfer y maes awyr.
Mae'n dweud bod gan y cyhoedd hawl i wybod beth maen nhw'n bwriadu ei wneud efo arian y trethdalwyr: "Os mai'r strategaeth ar gyfer y maes awyr ydy 'busnes fel arfer', yn anffodus dim ond gwaethygu gwnaiff y maes awyr.
"Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos i'r cyhoedd ac unrhyw fusnesau posib newydd fod gyda nhw gynllun credadwy i yrru twf a rhoi gwasanaeth awyr i Gymru y mae pobl yn haeddu. Mae'n rhaid iddyn nhw gyhoeddi'r cynllun yna heb oedi."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2013