Datgelu bandiau ysgolion Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae pob ysgol uwchradd yng Nghymru wedi cael sgôr a'u gosod mewn grwp o un i bump.
Mae'n asesiad o berfformiad ysgolion yn y flwyddyn academaidd 2012-13 gyda band 1 y gorau a band 5 yr isaf.
Defnyddir pedwar categori wrth asesu pob ysgol, cyn rhoi cyfanswm sgôr i bob ysgol:
Canran y disgyblon sy'n sicrhau pum TGAU A* i C, gan gynnwys Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg;
Wyth canlyniad gorau TGAU pob disgybl;
Perfformiad disgyblion mewn TGAU Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg;
Presenoldeb
Mae'r sgôr yn cael ei haddasu er mwyn rhoi ystyriaeth i nifer y plant sy'n cael cinio am ddim hefyd.
Mae'r rhan fwyaf o gategorïau hefyd yn ystyried cynnydd yr ysgol dros gyfnod o amser - er mwyn gwobrwyo ysgolion sy'n dangos perfformiad gwell.
O fewn y pedwar prif gategori, mae sgôr yn cael ei rhoi i ysgolion wedi ei seilio ar 12 mesur gwahanol.
Y sgôr gorau posib oedd 11 a'r gwaetha' oedd 44.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2011