£1.4m i helpu cyn filwyr yng ngogledd Cymru

  • Cyhoeddwyd
MilwrFfynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Yn ogystal a rhoi cymorth i filwyr, bydd yr arian yn mynd at helpu eu teuluoedd hefyd

Mae dros £1 miliwn wedi ei roi i elusen yng ngogledd Cymru, i roi cymorth i gyn filwyr sydd â phroblemau dibyniaeth.

Bydd elusen CAIS, sy'n gweithio o Landudno yn defnyddio'r £1.4m i fuddsoddi mewn gwasanaeth mentora i gyn filwyr a'i teuluoedd neu ofalwyr.

Mae cyfanswm o £12m wedi ei roi i elusennau dros y DU, gyda'r arian yn dod o ddirwyon Libor i fanciau Prydeinig.

Cafodd dirwyon Libor eu rhoi ar y diwydiant bancio oherwydd twyll gan fanciau wrth geisio gosod cyfradd benthyca ffafriol.

Dywedodd CAIS eu bod am weithio gydag elusennau sy'n helpu cyn filwyr sy'n ddibynnol ar alcohol neu gyffuriau dros Gymru yn y ddwy flynedd nesaf.

Bydd elusen Mind a chymdeithasau gwirfoddol yn rhoi cymorth i deuluoedd a gofalwyr hefyd.

Dywedodd Prif Weithredwr CAIS, Clive Wolfendale: "Mae Newid Cam eisoes yn werthfawr yng ngogledd Cymru.

"Nawr gallwn fynd ati i weithio'n frwd gydag elusennau partner er mwyn ehangu'r gwasanaeth ledled Cymru i helpu cyn filwyr y lluoedd arfog sydd wedi rhoi cymaint dros eu gwlad ond sydd bellach, am resymau amrywiol, yn wynebu gofid mawr.

"Mae cyn filwyr ar eu colled yn aml iawn o ran cael yr help a'r gwasanaethau y mae arnyn nhw eu hangen, yn bennaf am eu bod nhw wedi colli eu hunanhyder a hyder yn y gymdeithas maen nhw'n byw ynddi.

"Felly bydd gwaith partneriaeth rhwng CAIS a darparwyr eraill yn y sector elusennol a statudol yn hanfodol i lwyddiant y prosiect yma."