Ad-drefnu'r gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Ambiwlans
Disgrifiad o’r llun,

Dyletswydd y comisiynydd fyddai cynghori byrddau iechyd ar eu gwasanaethau ambiwlans

Fe all Ymddiriedolaeth Ambiwlansys Cymru gael ei ailenwi fel rhan o gynllun fyddai hefyd yn penodi comisiynydd i'w oruchwylio.

Cafodd dogfen ymgynghori ei gyhoeddi gan lywodraeth Cymru ddydd Iau, oedd yn dweud y byddai'r corff newydd yn cael ei alw yn Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Brys a Chlinigol Cymru.

Mae'n dilyn adolygiad o'r gwasanaeth yng Nghymru yn gynharach eleni.

Dywedodd y llywodraeth bod yr enw yn dangos "yr ystod eang o wasanaethau" ac yn helpu'r cyhoedd i ddeall pryd y mae hi'n addas i gysylltu ag ef.

Swydd newydd

Fel rhan o'r cynllun, byddai swydd y Comisiynydd Gwasanaethau Ambiwlans yn cael ei greu.

Dyletswydd y swydd honno fyddai cynghori byrddau iechyd lleol am wasanaethau ambiwlans.

Mae'r ymgynghoriad yn dilyn cyfnod ansefydlog i'r gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru.

Fis diwethaf oedd y tro cyntaf ers Mai 2012 i griwiau ambiwlans gyrraedd targed i gyrraedd 65% o'r achosion mwyaf brys o fewn wyth munud.

Daeth ymchwiliad diweddar gan BBC Cymru i'r canlyniad bod cleifion yng Nghymru yn aros yn hirach ar gyfartaledd na eraill yn y DU i gael eu cludo o ambiwlans i adran gofal brys.

Symud cyfrifoldeb

Dan y cynllun newydd, byddai Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn cael ei ailenwi, gyda gofyn i fyrddau iechyd greu 'Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys'. Byddai hyn yn rhoi mwy o reolaeth i fyrddau iechyd osod lefel y gwasanaeth yn eu hardaloedd eu hunain.

Ar hyn o bryd, Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC) sy'n gyfrifol.

Dywedodd y llywodraeth mai rhoi'r cyfrifoldeb i fyrddau iechyd yn lle'r WHSSC, sy'n gyfrifol am 90 o fathau o wasanaethau, fyddai'r drefn fwyaf effeithiol i Gymru.

"Bydd y Comisiynydd Gwasanaethau Ambiwlans yn gyfrifol am fonitro perfformiad gwasanaethau ambiwlans yn erbyn safonau cenedlaethol a gweithredu os nad yw'r Ymddiriedolaeth yn cyrraedd y safonau sy'n cael eu cytuno," meddai'r datganiad.

"Mae llywodraeth Cymru yn credu y dylai staff y gwasanaeth ambiwlans fedru cynnig gwasanaethau o safon, sy'n effeithiol yn glinigol ac yn seiliedig ar dystiolaeth, sy'n rhoi llawer mwy na gwasanaeth drafnidiaeth i gleifion brys."

Dywedodd hefyd bod angen enw newydd i gynrychioli'r ystod eang o wasanaethau sy'n cael eu cynnig, gan gynnwys gwasanaeth dros y ffon a gwasanaeth trin ar y safle, sy'n osgoi'r angen i fynd i'r ysbyty.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol