Ambiwlansys yn cyrraedd y nod
- Cyhoeddwyd
Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi cyrraedd 65% o'r galwadau brys pwysicaf o fewn wyth munud am y tro cyntaf ers 17 mis.
Yn ôl Ystadegau Cymru, fe lwyddodd y gwasanaeth i gyrraedd 65.2% o achosion Categori A - ble oedd bygythiad difrifol i fywyd - o fewn yr amser osodwyd gan Lywodraeth Cymru, a hynny am y tro cyntaf ers Mai 2012.
Y ffigwr ym mis Medi oedd 62.9%.
Ond mae'r ystadegau diweddaraf yn nodi dirywiad yn yr amseroedd aros i gael triniaeth am ganser.
Targed Llywodraeth Cymru yw y dylai 95% o achosion difrifol o ganser gael eu trin o fewn 62 ddiwrnod i gael diagnosis ond mae'r ffigyrau newydd yn dangos mai dim ond 86.6% gafodd hynny yn ystod mis Medi eleni.
88.6% oedd ffigwr Awst.
35,206 o alwadau
Cafodd y gwasanaeth 35,206 o alwadau 999 yn ystod Hydref 2013 - yn fwy nag ym mis Medi ond mymryn yn llai nag yn Hydref 2012.
O'r rheini roedd 13,654 yn alwadau Categori A, ffigwr sy'n is na Medi eleni a Hydref y llynedd.
Llwyddodd ambiwlansys i gyrraedd 65.2% o'r achosion hynny o fewn wyth munud, 70.5% o fewn naw munud a 95.4% o fewn ugain munud.
Er hynny, y ffigwr cyfartalog yw 65.2% a dim ond dau o'r byrddau iechyd unigol lwyddodd i basio'r nod, sef Betsi Cadwaladr (68.5%) ac Abertawe Bro Morgannwg (70.1%).
Roedd eraill ymhell ar ei hôl hi o hyd, gan gynnwys Powys (57%) a Chwm Taf (60.7%).
Canser
Yn ystod mis Medi fe gafodd 517 o gleifion ddiagnosis o ganser drwy'r cynllun brys. Fe gafodd 449 o'r rheini (86.6%) ddechrau eu triniaeth o fewn y targed o 62 ddiwrnod.
Dim ond un o'r chwe bwrdd iechyd perthnasol lwyddodd i drin dros 90% o'r achosion o fewn y nod.
Wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Iechyd y Cynulliad ym mis Gorffennaf eleni, fe addawodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford fod cynlluniau mewn lle i gyrraedd y targedau trin canser brys erbyn mis Hydref.
Fe fydd y ffigyrau yna'n cael eu cyhoeddi fis nesaf.
Fframwaith newydd?
Dywedodd Mr Drakeford ddydd Mercher: "Rwy'n llongyfarch staff ambiwlans am gyrraedd y nod ac am eu hymrwymiad i gleifion.
"Ond rhaid i mi bwysleisio, fel y gwnaeth adolygiad McClelland, nad oes fawr o dystiolaeth glinigol bod y nod o wyth munud yn fesur effeithiol o les gorau'r claf.
"Yn yr un modd mae arbenigwyr canser yn fy nghynghori nad yw'r gwahaniaeth rhwng y targedau 31 diwrnod a 62 ddiwrnod yn adlewyrchu'r safonau uchel mewn gofal ar hyn o bryd.
"Rwy'n bryderus y gallai fod enghreifftiau eraill lle mae'r meini prawf presennol ddim yn arwain at y canlyniadau gorau i gleifion.
"Felly - yn unol â fy ymrwymiad yn y ddogfen 'Gyda'n Gilydd i Iechyd' i ddatblygu fframwaith ganlyniadau i'r GIG - mae fy adran yn y broses o ddatblygu cynlluniau ar gyfer model darparu sy'n dibynnu ar ganlyniadau'r claf."
Ymateb
Wth ymateb i'r ffigyrau ambiwlans, dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Kirsty Williams:
"Mae'n braf gweld y targed yma'n cael ei gyrraedd o'r diwedd. Er bod nod Llywodraeth Cymru yn anuchelgeisiol a 10% yn llai nag yn Lloegr a'r Alban, mae'n dda gweld y ffigyrau'n symud i'r cyfeiriad cywir.
"Mae'n hanfodol bod y patrwm positif yma'n parhau fel y gallwn ddechrau cyrraedd yr un amseroedd ymateb i ambiwlansys ag y mae cleifion yn ei ddisgwyl yn Lloegr a'r Alban.
"Mae pobl Cymru wedi gorfod diodde'r amseroedd ymateb gwaethaf ar dir mawr y DU."
Roedd y Ceidwadwyr Cymreig yn canolbwyntio mwy ar gyhoeddiad Mr Drakeford, a dywedodd eu llefarydd ar iechyd, Darren Millar:
"Mae cyhoeddiad heddiw yn gyfaddefiad o fethiant.
"Mae'n ymddangos bod llywodraeth Lafur Carwyn Jones wedi rhoi'r gorau i geisio cyrraedd targedau allweddol y GIG yng Nghymru. Nid yw hyn yn syndod o ystyried nad yw nifer o'r targedau wedi eu cyrraedd ers misoedd neu flynyddoedd hyd yn oed.
"Nid yw targedau Adrannau Brys wedi eu cyrraedd ers 2009, mae targedau amseroedd aros am driniaeth ganser wedi eu methu bob mis ers 2008 ac mae amseroedd ymateb ambiwlans wedi cael eu cyrraedd unwaith mewn blwyddyn a hanner.
"Er fy mod yn derbyn yn llawn na ddylai targedau amseroedd aros fod yr unig bethau i ddangos perfformiad, maen nhw'n feini prawf a ddylid cael eu monitro'n ofalus yn y dyfodol.
"Dylai cleifion yng Nghymru baratoi am amseroedd aros hirach am driniaeth yn y dyfodol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Medi 2013
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2013
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2013
- Cyhoeddwyd23 Mai 2013
- Cyhoeddwyd7 Mai 2013