Ambiwlansys yn gorfod aros hyd at chwe awr
- Cyhoeddwyd
Mae cleifion yn gorfod aros dros chwe awr mewn ambiwlansys y tu allan i unedau brys, yn ôl ffigurau sydd wedi dod i law'r BBC.
Cleifion yng Nghymru sy'n gorfod aros hiraf o holl wledydd Prydain, yn ôl y data gafodd ei ryddhau ar ôl cais Rhyddid Gwybodaeth.
Yn ôl canllawiau, ddylai cleifion ddim gorfod aros mwy na 15 munud.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud fod yr oedi yn annerbyniol ond yn mynnu fod yr amseroedd aros wedi gostwng yn ddiweddar
Fe wnaeth 12 o'r 14 gwasanaeth ambiwlans yn y DU ymateb i'r cais.
Daw'r wybodaeth wrth i adrannau brys baratoi am gyfnod prysur fisoedd y gaeaf.
Dyw parafeddygon ond yn gallu rhyddhau cleifion o'u gofal pan fod staff ysbyty yn barod i gymryd cyfrifoldeb.
Amseroedd aros
Fe wnaeth y BBC ofyn i wasanaethau ambiwlans am y cyfnod aros hiraf am bob un wythnos rhwng mis Awst a diwedd Hydref.
Ni wnaeth yr un o'r 12 gwasanaeth ddweud bod y cyfnod aros hiraf yn llai nag awr, gyda nifer yn cofnodi cyfartaledd o thua dwy awr.
Yr amser hiraf oedd yng Nghymru, lle bu un ambiwlans yn aros am chwe awr 22 munud.
Yno hefyd y cofnodwyd yr amser hiraf ar gyfartaledd pob wythnos, dros dair awr.
Yn Lloegr, ardal Dwyrain Lloegr oedd wedi cofnodi'r amser aros hiraf, sef pum awr 51 munud.
Yr Alban oedd â'r record orau, gyda'r amser hiraf ym mhob wythnos unigol yn dros ddwy awr.
Methodd ymddiriedolaethau gwasanaethau Gogledd Iwerddon nac Ynys Wyth ddarparu data.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud mai eithriadau yw'r achosion ac mai am 20 munud yn unig ar gyfartaledd mae cleifion yn gorfod aros.
Dywedodd llefarydd ar eu rhan: "Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gomisiynu adolygiad annibynnol o Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, gyda'r casgliadau wedi'u cyflwyno fis Ebrill eleni.
"Dechreuodd y broses o gyflwyno'r argymhellion yn syth ac mae'r perfformiadau yn y prif feysydd wedi gwella ers hynny.
"Erbyn Ebrill 2014 bydd y berthynas rhwng yr Ymddiriedolaeth a byrddau iechyd lleol Cymru wedi trawsnewid yn llwyr, gyda'r cyfrifoldeb dros wella amseroedd trosglwyddo'n llawer cliriach.
"Rydym yn disgwyl i'r byrddau iechyd barhau i weithio'n agos gyda'r gwasanaeth ambiwlans yn ystod cyfnod heriol iawn dros y gaeaf."
Adnoddau
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud fod yr ystadegau yn profi fod unedau brys yn cael trafferth ymdopi a hynny, meddai nhw, oherwydd prinder arian.
Yn ôl Darren Millar, llefarydd y blaid ar iechyd yn y Cynulliad: "Ddylai neb orfod aros mor hir â hyn mewn ambiwlans - mae adnoddau'n broblem.
"Mae angen i Lywodraeth Cymru wneud rhywbeth i wella'r sefyllfa."
Wrth siarad ar raglen y Post Cynta' fore Llun, dywedodd Dafydd Jones Morris, cyn gyfarwyddwr y Gwasanaeth Ambiwlans yng ngogledd Cymru nad oedd y ffigurau'n syndod iddo.
"Mae wedi bod yn destun trafod ers peth amser," meddai, "ond mae'n dal yn siom a dwi'n meddwl bod 'na sawl rheswm dros y peth.
"Mae adnoddau'n broblem, a hefyd y ddarpariaeth o fewn ein cymunedau. 'Da ni'n cael darpariaeth y tu allan i oriau adeg y penwythnos - ond beth am ymestyn hynny i'r wythnos hefyd fel bod pobl yn ei chael hi'n haws mynd at eu meddyg teulu?
"Maen nhw 'di dechrau hynny yn Lloegr yn barod, lle mae 'na nyrs neu feddyg teulu ar gael 24 awr y dydd. Pam ddim gwneud rhywbeth tebyg yng Nghymru?"
Dywedodd Katherine Murphy, Prif Weithredwr Cymdeithas y Cleifion: "Dylai gofal brys gael ei drin ar fyrder.
"Mae gan gleifion barch o'r mwyaf tuag at y gwasanaethau brys - ond mae'r oedi hyn yn annerbyniol. Maen nhw'n peryglu gofal a diogelwch cleifion.
Mae yna ddifrod hefyd i'r lein rhwng Llanrwst a Chyffordd Llandudno. Mae'n debyg na fydd y lein yn ailagor tan ddydd Iau neu ddydd Gwener.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2013
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2013